Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: dechrau’r Adfent.
Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). I’r plant a phlantos, sgwrs am aros, a gwerth amynedd; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Cwpwrdd a bocsys fydd hanfod myfyrdod yr Oedfa hon. Awgrymir darllen rhag blaen Hebreaid 12:1-3 a Philipiaid 3:12-14.
Liw nos (18:00) bydd Owain yn cydio yn her a neges yr Adfent gyda chyfres newydd o bregethau: Maranatha! Yn y cyntaf, fe’n hanogir i gan ein hannog i ochel rhag diflastod. Ar y Sul cyntaf hwn o Ragfyr, cawn ein rhybuddio o’r hyn a ddaw ohonom os awn i gysgu’n ysbrydol. Mae’n anodd aros ac aros, aros eto, ac aros eto fyth i gael gweld Gwawr y Deyrnas. Ydi, mae’n hawdd diflasu, hawdd yw digalonni. Anos yw aros yn effro, anos yw cynnal ein gilydd, anos yw bachu ar bob arwydd fod Duw gyda ni, yn ein cynnal wrth i ni aros, ac aros, ac aros eto fyth am gael gweld o’r diwedd, o’r hir hir ddiwedd ailddyfodiad Crist mewn gogoniant, buddugoliaeth derfynol Duw dros bob gwrthwynebiad a gelyniaeth. (Buddiol buasai darllen rhag blaen Marc 13:24-27; 32-37). Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol a Hwyrol.
Nos Lun (2/12; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (3/12; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (4/12): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (6/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Minny’r Caffi pnawn Gwener (6/12; 14:00-15:30 yn y Festri): cyfle i ofalwyr a’u hanwyliaid sy’n byw gyda dementia a heriau tebyg ddot at ei gilydd am ysbaid o ymlacio. Boed bendith. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gychwyn y fenter bwysig hon.