Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 20:1-9
Yn yr hen fyd un ffordd o geisio rhwystro llofruddiaeth oedd rhoi hawl i deulu’r dioddefwr i ymlid a lladd y llofrudd. Unwaith y cydiai mewn dau deulu, gallai dial tylwythol (vendetta) o’r math yma barhau am genedlaethau. Diau fod ofn y dialydd gwaed wedi atal llawer yn Israel rhag anfadwaith, ond yr oedd o leiaf un gwendid sylfaenol yn perthyn i’r drefn. Nid oedd gwahaniaeth rhwng llofruddiaeth ragfwriadol mewn gwaed oer a lladd anfwriadol; neu ddamweiniol (manslaughter). Er mwyn gwneud cyfiawnder â’r un a laddodd trwy amryfusedd neu anwybodaeth, gorchmynnodd Moses i’r Israeliaid godi dinasoedd noddfa ar ôl iddynt gyrraedd Canaan (trowch i Ddeuteronomium 19:1-13). Yno gallai’r ffoadur fod yn sicr y rhoddid gwrandawiad teg a diragfarn i’w achos.
Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Josua wedi iddo rannu’r wlad rhwng y llwythau oedd ufuddhau i Moses ac adeiladu chwe dinas noddfa. Sylwn ar dair nodwedd arbennig a oedd yn perthyn i’r dinasoedd hyn.
Yn gyntaf, roeddent yn hawdd eu gweld. Sefydlwyd pob un ohonynt wrth droed mynydd neu fryn amlwg. Petai’r troseddwr yn mynd ar goll ac yn gofyn cyfarwyddyd, ni fyddai’n rhaid i rywun ond dweud wrtho, ‘Cadw dy lygaid ar y bryn acw ac fe ddeui i’r ddinas’.
Yn ail, roeddent yn hawdd eu cyrraedd. Codwyd hwy mewn dyffryn neu ar wastadedd, yng nghanol y bryniau, fel Jerwsalem a Nasareth. Ond iddo fod yn rhedwr cyflym nid oedd dim i rwystro’r ffoadur rhag cyrraedd un ohonynt mewn pryd. Roedd dosbarthiad y dinasoedd hefyd yn gymorth yn y cyswllt hwn. Roedd tair bob ochr i’r Iorddonen - dwy yn y gogledd, dwy yn y canolbarth a dwy yn y de, er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd pawb roedd eu hangen arno.
Yn olaf, roeddent yn berffaith ddiogel. Roedd Duw wedi addo trwy Moses na ddeuai unrhyw niwed yn y dinasoedd noddfa i’r un oedd yn ddieuog o lofruddiaeth. Câi’r ffoadur loches rhwng eu muriau.
I’r Cristion, mae Iesu yn noddfa. Y mae croes Calfaria yn hawdd ei gweld, yn hawdd ei chyrraedd ac yn arwydd o faddeuant.