Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (8/12 am 9:30 yn y Festri). Bydd Owain yn adrodd stori’r Nadolig gan ddefnyddio ... Emojis! Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
‘Dewch a Phrynwch’ er budd ein helusen ‘Maggie’s’. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu a pharatoi.
Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan barhau â’r gyfres newydd o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun sydd gan Owain ar ein cyfer.
Liw nos (18:00) bydd Owain yn parhau i amlygu her a neges yr Adfent gyda chyfres o bregethau: Maranatha!
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (10/12; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Aled Edwards.