Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn parhau i amlygu her a neges yr Adfent gyda chyfres o bregethau: Maranatha! Ni fydd Ysgol Sul. Bydd y casgliad rhydd yn yr oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi gwaith Cyngor yr Ysgolion Sul a bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.
Am 17:00 (sylwch ar y newid amser os gwelwch yn dda) cynhelir ein Dathliad Nadolig: Nadolig ad hoc. Gwahoddir chi i ddod, o’r ieuengaf i’r hynaf, wedi gwisgo fel un o gymeriadau Hanes Geni Iesu Grist. Bydd hyblygrwydd y sgript yn sicrhau fod modd cynnwys pawb a phopeth! Yn dilyn yn syth ymlaen o’r Dathliad hwn bydd Parti Nadolig yr Ysgol Sul a PIMS yn gweini wrth y byrddau.
Nos Lun (16/12; 19:00-20:30) Parti Nadolig PIMS