Ein Hoedfa foreol (10:30) dan arweiniad ein gweinidog (ni fydd Ysgol Sul). Ildio ein sicrwydd! Y bregeth olaf yn y gyfres ‘Maranatha!’.
Mae’r darn enwog hwn o broffwydoliaeth Eseia (Eseia 61:1-4; 8-11) yn gosod o’n blaenau y themâu hynny y bydd Mair yn cydio ynddynt yn ei chan hithau (Luc 1:47-55): Newyddion da am Dduw cadarn - Duw sydd wedi dewis bod yn Fab i ferch nad oedd hi’n neb. Cyn bo hir dymchwelir y rhai sy’n dal awenau grym a thrais yn eu dwylo, ac fe gaiff y newynog fwyd. Nid bwyd ysbrydol, nid bara damhegol, ond bara o’r pridd. Bara go iawn, a chânt ddigonedd ohono. Mae’r adnodau o 1 Thesaloniaid (5:16-24) yn ein hatgoffa o’r hyn sydd angen gwneud wrth aros am wawr y Deyrnas: gweddïo’n ddi-baid, diolch ym mhob dim, glynu wrth yr hyn sydd dda ac ymgadw rhag pob math o ddrygioni. Sylwch yn arbennig ar y geiriau: Peidiwch â diffodd yr Ysbryd(19a). Cydiwch yn anferthedd yr hyn mae Paul yn awgrymu - gall bobl fel ni ddiffodd Ysbryd Duw! Boed i’r rheini ohonom nad sydd yn dymuno gwneud hynny, byw ein bywyd gan weddïo’n ddi-baid, diolch ym mhob dim oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i ni (17).
Braint eto, pnawn Sul (14:30), fydd cael bod fel eglwys, yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ystyried amrywiol gymeriadau’r Nadolig; pob un â’i neges i ni wrth droi ein golygon i flwyddyn newydd.
Gwasanaeth Noswyl Nadolig dan arweiniad ein gweinidog (24/12; 11:30yh yn y festri). Dewch â chroeso.
Oedfa'r Nadolig (25/12; 10:00) yng Nghapel Minny Street dan lywyddiaeth ein gweinidog. Croesawn gyfeillion Eglwys y Crwys i ymuno â ni a phregethir gan weinidog y Crwys, y Parchedig Aled Huw Thomas. Bydd y casgliad rhydd yn yr oedfa tuag at waith Cymorth Cristnogol.
Oedfa Foreol (29/12; 10:30) dan arweiniad ein cyd-aelod, y Parchedig Menna Brown (ni fydd Oedfa Hwyrol).