Bore Sul (10:30) ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Glyn Tudwal Jones (Caerdydd). Cynhelir yr Ysgol Sul.
Liw nos (18:00) gwasanaethir gan y Parchedig Lona Roberts (Caerdydd).
Gwyddom y cawn gan y naill a’r llall bregethu meddylgar a phregeth fuddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (26/11; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Lowri Haf Cooke (Bwytai Cymru).
(27/11) Taith Gerdded dros y morglawdd (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul)