Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 14:6-15 a Numeri 13 ac 14.
Yn union ar ôl ennill Canaan, aeth Josua ati i ddosbarthu’r wlad rhwng y llwythau. Dyma waith pwysig, oherwydd buasai’r Israeliaid wedi dechrau ymladd a’i gilydd am y rhannau mwyaf ffrwythlon. Byddai’r fath ddiffyg undeb yn ei gwneud yn hawdd iawn i’r Canaaneaid wrthymosod ag ennill y cyfan a gollwyd yn ôl. Y llwyth cyntaf ar y rhestr yw Jwda; ond cyn rhoi disgrifiad manwl o diriogaeth Jwda, mae’r awdur yn dangos sut yr aeth Hebron, un o’r dinasoedd pwysicaf, yn eiddo i Caleb y Cenesiad.
Caleb oedd un o’r ysbiwyr a anfonwyd gan Moses i chwilio’r wlad cyn i Israel groesi’r Iorddonen. Daeth yn ôl yn llawn brwdfrydedd, a cheisiodd annog y genedl i brysuro ymlaen at ffiniau Canaan. ‘Roedd yr Israeliaid yn ofnus. Ni fynnent fentro ymhellach, a bygythient ethol arweinwyr newydd a fyddai’n barod i’w harwain yn ôl i’r Aifft. Yn yr argyfwng hwn, cefnogodd Caleb Moses. Fel cydnabyddiaeth o’i deyrngarwch i Moses, ac o’i ffyddlondeb i fwriad Duw, addawodd Moses roi lle iddo yng Nghanaan: ‘Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth’ (adnod 9). Nawr, ymron hanner canrif yn ddiweddarach, mae Caleb yn atgoffa Josua o’r addewid, ac fe gaiff ei ddymuniad.
Beth a wnelo hyn â ni? Nid Israeliad oedd Caleb. ‘Roedd yn hanu o lwyth y Cenesiaid, un o lwythau Edom. Derbyniwyd y llwyth hwn gan Israel. O ganlyniad, y mae Caleb, yr ‘estron’ yn cael lle blaenllaw ymysg cewri’r ffydd Iddewig. (Caiff Ruth y Foabes - ‘estron’ arall - yr un anrhydedd, ond fe ddown at hon maes o law ...) Cydnabyddir ffyddlondeb Caleb i Dduw trwy roi Hebron yn etifeddiaeth iddo ef a’i ddisgynyddion. Nid gofyn wna Duw pa liw yw ein croen, neu i ba genedl y perthynwn. Ufudd-dod, ffyddlondeb a gwasanaeth i’n cyd-ddyn sy’n cyfrif ganddo ef.
Mae’n debyg mai hen hen air Saesneg am garedigrwydd oedd Ruth; gair sydd yn bodoli heddiw, dim ond yn yr ystyr nacaol: ruthless. Caleb a Ruth - mewnfudwyr, ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a phwy bynnag sydd i ni, am ba reswm bynnag yn ‘estron’ - natur ein hymateb iddynt, yn bersonol, fel cymunedau ffydd ac fel bro a gwlad fydd yn penderfynu a’i ruthful neu ruthless y byd hwn.