Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). I’r plant a phlantos, sgwrs am bethau hyll; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Ein braint fydd cael bod yn dystion i fedydd Lois. Bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau’n seiliedig ar Lythyr Paul at Gristnogion Rhufain, ond ... mae’r gyfres fel petai’n gweithio am yn ôl! Wedi dechrau yn y bennod olaf, bydd Owain yn troi bore Sul am destun i’r ddeuddegfed bennod - ychydig adnodau sydd yn wahanol i weddill y llythyr. Yma cawn ein hunain yng nghanol y pethau syml. Pethau ymarferol, pethau ymhell o’r dyfnderau athrawiaethol a’r uchelderau diwinyddol. Dyma bethau holl bwysig. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni. (12:9). Buddiol buasai troi rhagblaen at Rufeiniaid 12.
Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd
Liw nos (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres ‘Hoff Adnodau’. Ein hoff adnodau fel Cristnogion; adnodau a fu, sydd ac a fydd byth yn gynhaliaeth i bobl ffydd. Rhaid, wrth gwrs, oedd dewis a dethol - tua 40 - o adnodau, ond cystal cydnabod fod y dasg o ddewis a dethol 40 o’n hoff adnodau fel Cristnogion yn anodd iawn, ond gwaith hawdd, os gwaith o gwbl wir, oedd cynnwys Salm 23, ond pa adnod ohoni’n benodol? Bydd Owain yn troi at y cymal sydd orau ganddo: Fy ffiol sydd lawn ... (23:5). Boed bendith.
18/11 Bore Coffi/Noson Goffi Masnach Deg 10:30-12:30/19:00-21:00 yng nghartref aelodau: cyfle i brynu anrhegion, bwydydd a chardiau Nadolig Masnach Deg.
Nos Lun (18/11; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (19/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Bore Gwener (22/11; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod Llythyr Paul at Gristnogion Philipi.