Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/11 am 9:30 yn y Festri). Down ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf i addoli o dan arweiniad Rhian Widgery. Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Ion Thomas fydd yn arwain yr Oedfa Foreol (10:30) Boed bendith ar ei weinidogaeth yn ein plith.
Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Hwyrol (18:00). Bydd Owain yn parhau â’r gyfres newydd bregethau’n seiliedig ar Lythyr Paul at Gristnogion Rhufain: Prisca ac Acwila fydd testun ein sylw y tro hwn: Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu ... (Rhufeiniaid 16:3).
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (12/11; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Wil Morgan.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (14/11; 19:30; ym Methel, Rhiwbeina).
Babimini bore Gwener (15/11; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Minny’r Caffi pnawn Gwener (15/11; 14:00-15:30 yn y Festri): cyfle i ofalwyr a’u hanwyliaid sy’n byw gyda dementia a heriau tebyg ddot at ei gilydd am ysbaid o ymlacio. Boed bendith. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gychwyn y fenter bwysig hon.