Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 10:1-4
Trwy wneud heddwch a Josua roedd pobl Gibeon yn dod yn ddeiliaid i Israel. Ond er eu bod yn gorfod torri cynnud a thynnu dwfr i’r holl gynulleidfa (9:21), nid oedd y trefniant yn gwbl anfanteisiol i’r Gibeoniaid.
Yn ôl rheolau’r cytundeb, roedd ganddynt hawl i ddisgwyl i’r Israeliaid eu cynorthwyo a’u diogelu pe bai angen. Daeth cyfle i roi prawf ar y berthynas gynt nag oedd neb yn ei ddisgwyl.
Roedd pum brenin o’r trefi cyfagos wedi uno yn erbyn pobl Gibeon ac wedi amgylchynu eu dinas. Sylweddolai’r brenhinoedd na fyddai Josua fawr o dro yn ennill y wlad gyfan ond iddo gael cefnogaeth y Gibeoniaid: Oblegid dinas fawr oedd Gibeon; ei holl wŷr hefyd yn gedyrn (adnod 2). Does ryfedd felly i’r trigolion droi at Josua am gymorth. Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd a chynorthwya ni (adnod 6). Roedd eu cais yn un na fedrai Josua ei wrthod.
Dyma Pantycelyn:
Gosod babell yng ngwlad Gosen,
Tyred, Arglwydd, yno d’hun,
Gostwng o’r uchelder golau,
Gwna dy drigfan gyda dyn;
Trig yn Seion, aros yno
Lle mae’r llwythau’n dod ynghyd,
Byth na mad oddi wrth dy bobol
Nes yn ulw’r elo’r byd.
Gosod babell yng ngwlad Gosen …
Ymosodwyd ar Gibeon gan bum dinas gyfagos. ‘Roedd yn rhaid i Josua a’i fyddinoedd ddod i’r adwy, ond ‘roeddent wedi symud taith sawl diwrnod ymlaen o Gibeon. Buasai’n anodd i Josua medru dychwelyd mewn pryd i achub Gibeon, ond bu gwyrth: arhosodd yn yr haul yn llonydd, safodd amser yn stond os mynnwch gan roi cyfle i Josua ddychwelyd a threchu byddinoedd y pum brenin. Digwyddodd hyn oll yng ngwlad Gosen.
Gosod babell yng ngwlad Gosen …
Yn ein hymdrechion dros Deyrnas Dduw, mae’n hawdd digalonni, a theimlo na fydd modd i ni lwyddo, ond yn ein Gosen ni, mae Duw wedi gosod ei babell, gwnaeth ei drigfan gyda ni. Daeth atom, i aros. Y mae nawr fel erioed o blaid ei bobl.
Josua 10:15-21
Ar ôl cael eu trechu gan fyddin Josua, ffodd pum brenin yr Amoriaid ac ymguddio mewn ogof. Wedi iddo ddeall lle ‘roeddent yn cuddio, ‘roedd gan Josua gyfle i ladd y pump yn y fan a'r lle. Penderfynodd yn hytrach i ohirio’r mater hwnnw hyd yr hwyr. Pam? Am fod ganddo ormod o bethau pwysicach i’w gwneud. Roedd perygl i’r gwaith annymunol o ladd y brenhinoedd hyn gymryd lle cyfrifoldebau eraill. Felly, ei gyngor i filwyr ei fyddin oedd iddynt dreiglo meini mawrion ar geg yr ogof a gosod gwylwyr. Ond, nid oeddent hwy ei hunain i aros yno. Roedd y fyddin i ganolbwyntio ar waith y dydd, sef erlid y gweddill o’u gelynion a’u trechu.
Annymunol iawn yw’r cyd-destun, ond mae yma neges ar ein cyfer. Rhywbryd neu’i gilydd fe ddaw pawb ohonom wyneb yn wyneb â’r pum brenin yn yr ogof! Â’n bywyd dan gwmwl: cawn ein poeni gan ofidiau ac anawsterau; ofnau ac amheuon - pethau real. Ein dewis wedyn yw un ai aros gyda’r pethau hyn, mynd i’w canol, ac o bosib felly golli golwg ar fendithion, cyfleoedd a phosibiliadau bywyd - y pethau hyn hefyd yn real. Weithiau, rhaid gadael y pum brenin yn yr ogof.
Cofiwn y disgyblion gael eu poeni pan welsant y dyn oedd yn ddall o’i enedigaeth. Rabbi, meddent wrtho mewn penbleth, pwy bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni’n ddall? (Ioan 9:2). Ateb Iesu oedd, Wnawn ni ddim ymboeni am hynny nawr; ond gadewch inni fynd i weld beth fedrwn ei wneud i’w helpu.
Gadwyd y pum brenin yn yr ogof ag Iesu canolbwyntio ar waith y dydd: ymateb i’r anghenus. Gofynnwyd rywdro i William Booth (1829-1912), sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, sut ydoedd yn ymateb i’r adnodau lletchwith a’r mynych wrthddywediadau a geir yn y Beibl. ‘I mi’, meddai, ‘y mae darllen y Beibl fel bwyta pysgodyn. Pan ddof o hyd i asgwrn byddaf yn ei godi a’i osod ar ochr y plât a mynd ymlaen i chwilio am fwy o gig’.
Un o gyfrinachau bywyd yw gwybod beth i’w wneud â’n hanawsterau a gofidiau. Gofalwn beidio â’i defnyddio yn esgus/rheswm i laesu dwylo a digalonni. Peidiwn ganolbwyntio ar yr esgyrn gan anghofio’r cig! Weithiau nid y pum brenin sydd wir yn bwysig.
Er mor waedlyd yr hanes, ceir yma gyngor doeth a da: Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i’w gwylio. Peidiwch chithau â sefyllian ... (Josua 10:18,19a).