Oedfa Foreol am 10:30! Dewch â chroeso. I’r plant a phlantos, ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain Llyr yn ein hannog i ystyried neges y Balmwydden. Awgrymir darllen Barnwyr 4:1-10 i baratoi i’r Oedfa. Ydy eistedd yr un peth â segura? Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Liw nos (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres ‘Hoff Adnodau’. Ystyrir Mathew 11:28; Ioan 15:4 a Luc 9:60. Tair adnod, tri gair; tri phen: Deuwch; Arhoswch a Dos. Boed bendith.
Nos Lun (4/11; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (5/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (6/11): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol