Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Hywel Wyn Richards (Pen-y-bont ar Ogwr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (29/10; 19:30 yn y Festri) fydd y noson yng nghwmni’r Parchedig Harri Parri (Cannwyll yn Olau).
Minny’r Caffi pnawn Gwener (1/11; 14:00-15:30 yn y Festri): cyfle i ofalwyr a’u hanwyliaid sy’n byw gyda dementia a heriau tebyg ddod at ei gilydd am ysbaid o ymlacio. Boed bendith. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gychwyn y fenter bwysig hon.