‘The Supper at Emmaus’ Darr Sandberg (gan. 1963)
‘The Supper at Emmaus’ Darr Sandberg (gan. 1963)
Wrth bortreadu'r Swper yn Emaus, tueddiad arlunwyr yn gyffredinol yw amlygu drama: Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef (Luc 24:31a BCN). Mae Darr Sandberg yn dewis hepgor y ddrama: golau tawel, coflaid cysgodion cyfarwydd y cartref; ystafell syml yn llonyddwch yr hwyr. Dyma’r ddau ddisgybl. Gwyddom fod Iesu’n bresennol, ond nid amlwg mohono. Mae’r hynaf o’r ddau, Cleopas o bosib, yn gogwyddo’i ben i glywed sibrwd yr ieuengaf - y mab efallai. Yr ieuengaf hwnnw yw’r cyntaf i sylweddoli pwy oedd wrth y bwrdd. Yn hwyr y dydd, gyda thoriad y bara, fe ddaeth yr adnabod: Iesu yw.
Crëir ‘ffenest’ gan y ddau ddisgybl, a thrwyddo gwelir dwylo Crist, y bara’n torri a gwawl goleuni’r byd (Ioan 8:12; ... mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch (Ioan 1:8 BCN). Gwelir Iesu trwy’r disgyblion. Wrth ystyried hyn, cofiwn y ffaith syml mai i’r disgyblion yr ydym yn ddyledus am bopeth a wyddom am Iesu, ein Harglwydd. Yr unig Grist y gwyddom amdano yw Crist trwy ei ddisgyblion. Da buasai ystyried hefyd, mae’r unig Grist a wel eraill yw’r Crist a welir ynom. Efallai mai hynny yw arwyddocâd y ddwy lusern: wedi derbyn o oleuni Crist, rhaid i’r goleuni hwnnw lewyrchu ynom, trwom ac amdanom: Chwi yw goleuni’r byd (Mathew 5:14 BCN).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)