Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg heno, yn Eglwys Llanfair Penrhys.
Wedi trafodaethau'r Pwyllgor Gwaith am 18:30 cafwyd cyflwyniad gan Sharon Rees am fywyd a gwaith y gymuned arbennig hon. Yn 'Journey of a Lifetime: From the Diaries of John Morgans' (Llanidloes; 2008), mae'r Parchedig John Morgans, pan ofynnwyd iddo beth yw rôl yr eglwys gyfoes, yn ateb: “bod wrth ochor y gymuned.” Dyna wnaeth John a Norah Morgans mor llwyddiannus yn Eglwys Llanfair, Penrhys; a dyna a wneir o hyd, gan Sharon a'i chydweithwyr. Duw a fo'n blaid iddynt yn eu gweinidogaeth a chenhadaeth. Deisyfwn hefyd, fendith Duw ar waith y Cyfundeb.
Eglwys Llanfair; y capel
Miara, Sharon, Paul, Natasha, Natalie, Anne a Kath - a fu'n sôn am addoliad a gwasanaeth Eglwys Llanfair.