'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (17)

'Supper at Emmaus' Ceri Richards (1903-71)

Supper at Emmaus Ceri Richards (1903-71)

Supper at Emmaus Ceri Richards (1903-71)

Melyn, glas a gwyrdd - rhai o hoff liwiau Ceri Richards. Bwriad yr arlunydd oedd cyfleu dychryn a dwyster yr eiliadau tyngedfennol hynny: A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuasant ef … (Luc 24:31a WM).

Crëir croes ddisglair o olau. Nid goleuo Crist mae’r golau, ond llifo ohono, trwyddo ac amdano: dyma oleuni’r byd (Ioan 8:12); dyma ein gobaith: Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? (Salm 27:1 BCN).

Glas: dŵr, … pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth (Ioan 4:14 BCN); glas ffynhonnau dyfroedd bywyd (Datguddiad 7:17 BCN). Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth (Diarhebion 14:27 BCN).

Gwyrdd: yr egin glas; bywyd: … ynddo ef bywyd ydoedd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd (Ioan 1:4 BCN)

Un o nodweddion amlycaf y llun yw maint sylweddol dwylo a thread Iesu a’r disgyblion. Daw un o weddïau Teresa o Avila (1515-1582) i’r meddwl:

Bellach nid oes gan Grist gorff ar y ddaear ond eich corff chi;

gyda’ch dwylo chi yn unig y gall wneud ei waith,

â’ch traed chi yn unig y gall droedio’r byd,

trwy eich llygaid chi yn unig a gall ei dosturi lewychu ar fyd cythryblus.

Bellach nid oes gan Grist gorff ar y ddaear ond eich corff chi.

(Gweddïau Enwog; gol. Cynthia Davies. Cyhoeddiadau’r Gair 1993)

Mae’r eiliadau tyngedfennol: A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuasant ef yn amlygu’r ffaith mai mewn partneriaeth â’i bobl, nid ar wahân iddynt, y myn Crist barhau ei waith gwaredigol yn y byd. Awn ati felly i ymweld â’r claf, sirioli’r digalon, gwasgaru cymwynasau a charedigrwydd, a dweud wrth bobl â’u gobaith ar ddiffodd fod cariad Duw yn anorchfygol.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)