Noson braidd yn wahanol heno! 'Merched Minny'! Enlli, Manon, Mared a Lleucu (diolch i Rhiannon am gyfeilio) yn cynnal cyngerdd i godi arian. Enlli, Manon a Mared er budd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Lleucu’n casglu tuag at taith yr URDD i Batagonia. Cafwyd cyfuniad o unawdau, deuawdau, triawdau a phedwarawdau - noson o gerddoriaeth Esmwyth, Melodaidd, Meistrolgar, Llesol - Rhagorol! Ar derfyn y noson, 'roedd cyfle am sgwrs, tra bod y PIMSwyr yn prysur weini paned ac amrywiol ddanteithion.