‘Y Swper yn Emaus’ Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)
Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hyw, ac adnabuasant ef (Luc 24:30 BCN).
Dyma Supper at Emmaus (1601) neu’r London Supper er mwyn gwahaniaethu rhwng hwn a Swper Milan (1606-7).
‘Y Swper yn Emaus’ (1601; Llundain) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)
Paentiwyd Swper Milan blynyddoedd ar ôl Swper Llundain. Mae naws y ddau’n wahanol, oherwydd bod amgylchiadau Caravaggio - wrth iddo weithio ar y naill a’r llall - yn wahanol iawn. Adeg paentio Swper Llundain, Caravaggio oedd darling diwylliant celfyddydol ac awdurdodau crefyddol ei gyfnod; ‘roedd pentwr o waith ganddo, a phob comisiwn yn talu’n dda iawn. Yn naturiol felly, ‘roedd y Caravaggio’n hyderus yn ei grefft, ‘roedd yr hyder hwnnw’n magu menter, a llwyddiant pob menter yn bwydo’r hyder. Perthyn Swper Llundain i’r cyfnod byrlymog hwn, ac mae’r llun yn fwrlwm o fywyd, symud, cynnwrf, lliw a golau: llun mentrus, newydd, deinamig ydyw. Gorffenedig hefyd - bu Caravaggio’n hamddenol ddigon yn gosod y finishing touches - bob un - yn ei lle.
‘Y Swper yn Emaus’ (1606; Milan) Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)
Mae Swper Milan yn wahanol. Erbyn iddo ddechrau gweithio ar hwn ‘roedd bywyd Caravaggio a’i ben i waered. Yn sgil gem o tennis - o bob peth - bu cweryl, brofado, dyrnu, cyllell; lladdwyd Ranuccio Tomassoni gan Caravaggio. Bu’n rhaid iddo adael Rhufain...pwyso ar hawddfyd - hwnnw’n siglo,/profi’n fuan newid byd (Eben Fardd, 1802-63; CFf 739). Dihangodd i Naples. Peth bregus yw hyder, gall wywo’n sydyn iawn; dyna ddigwyddodd ym mhrofiad Caravaggio: daeth cyfnod anodd, tywyll, llwyd. Perthyn Swper Milan i’r cyfnod hwnnw. Mae’r lliwiau’n ddof, nid oes drama, na chymaint o symud; pwl yw’r golau, brysiog yw’r gwaith; mae’r llun yn anorffenedig. Mae’r cynfas yn amlwg yn y corneli, lle gosodwyd dim ond haenen denau o baent. Mae Swper Milan yn frysiog, anorffenedig, a gofalus. Nid ifanc mo Iesu bellach ond barfog draddodiadol, yn gwisgo nid coch llachar, ond gwyrdd twyll. Mae’r disgyblion yn wahanol, a’i hymateb yn wahanol. Mae syndod yr adnabod, braw'r atgyfodiad yno o hyd, ond heb y lliwiau sylweddol, y goleuo cadarn, a’r ddrama fawr. Ond, mae Swper Milan yn gweithio - dyma Iesu’n fyw, yn fyw gyda phobl gyffredin iawn yr olwg, tlodaidd ambell un, a thrist. Awgrymaf fod Swper Llundain yn llawn o fwrlwm Sul y Pasg - lliw, golau, gwefr, drama - gwych. Mae Swper Milan yn cyfleu realiti beunydd beunos Tymor y Pasg. Crist gyda ni, pan mae bywyd yn ddilyw, a byw’n ddifflach - Crist gyda ni pan mae ffydd a chred yn fater o ddysgu’r sgript. Na, did oes gwefr y perfformiad, a chymdeithas actorion, a chymeradwyaeth y gynulleidfa; na, dim ond stafell ‘lwyd, paned llugoer a dysgu llinellau. Diflas ond angenrheidiol.
Mae Swper Llundain yn wefr i gyd ac o’r herwydd yn wych iawn iawn. Mae Swper Milan yn dawel a llonydd, ac o’r herwydd yn wych iawn iawn. Lle bynnag mae’ch ffydd chi heddiw: boed yn Llundain neu’n Milan, cofiwch fod Iesu’n holl bresennol, yn y naill le a’r llall.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)