Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Llun: Itay Bav-Lev
Pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn defosiwn, myfyrdod a gweddi.
Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3)
Echel ein myfyrdod heddiw, oedd Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60).
Y mae Samson a Steffan yn gweddïo wrth farw. Gyrfa o ddial yn erbyn y Philisitiaid oedd stori bywyd Samson a gweddi ddialgar gas oedd ar ei wefus wrth ddymchwelyd y deml ar eu pennau: Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, "O! Arglwydd DDUW, cofia fi, nertha fi’r tro hwn yn unig, O! Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad" (Barnwyr 16:28 BCN). I’r gwrthwyneb, gweddi rasol, faddeugar oedd ar wefus Steffan: "Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd ... Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn" (Actau 7:59b,60a BCN).
Y Crist rhyngddynt sy’n gyfrifol am ansawdd wahanol eu gweddïau. Y gwahaniaeth rhwng Samson a Steffan yw’r gwahaniaeth rhwng ysbryd dial y natur ddynol ac ysbryd gras ein Harglwydd Iesu: ... os bydd rhywun yn dy orfodi i’w ddanfon am un filltir, dos gydag ef ddwy (Mathew 5:41 BCN).
Gall gweithred ddaionus wthio gelyn o’i safle gelyniaethus. The first mile meddai T. W. Manson (1893-1958) renders to Caesar the things that are Caesar’s; the second mile, by meeting oppression with kindness, renders to God the things that are God’s. Dyma ethic Teyrnas Dduw. Dyma ffordd Iesu wrth fyw, marw a byw o’r newydd. Dyma stori Steffan - disgleirdeb gogoniant Duw yn ei wyneb a gweddi’r Crist ar ei wefus ac yn ei galon. "‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd ... Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni (Rhufeiniaid 12:19b,20b BCN).
Buddiol bu ‘Tiberias’. Cawsom egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.