Dyfrig Parri oedd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar heddiw. Ei fwriad, meddai, oedd creu cerddorfa yn y festri! Ond, beth ydi’r prif beth sydd angen arnom i greu cerddorfa? Chwaraewyr ac offerynnau! Ac yn wir, ‘roedd gennym gwmni o offerynwyr yn barod. Daethant ymlaen, deg ohonynt. Felly, ‘roedd y gerddorfa’n barod - amrywiaeth oedran, gallu a chefndir ond pob un a’i gyfraniad anhepgor. Prin fod gwell darlun o natur a gweinidogaeth eglwys leol!
‘Roedd pawb bellach yn awchu i glywed y gerddorfa. Ond och! Am sŵn! Crëwyd amherseinedd heb ei debyg! ‘Roedd pob aelod o’r gerddorfa’n chwarae beth y mynno, fel y mynno! Nid oedd cyd-chwarae o gwbl. Wedi cael taw arnynt, bu cymeradwyaeth gan y gynulleidfa, ond hynny efallai’n fynegiant o’r dyhead i beidio gorfod clywed y fath sŵn eto!
Gofynnodd Dyfrig pa help oedd angen ar y gerddorfa? Cafwyd sawl awgrym da: cael y gwahanol fath o offerynnau i eistedd gyda’i gilydd efallai, neu … beth am gopi o’r gerddoriaeth i ddilyn!?
Wedi gosod yr offerynwyr yn eu priod le, a chynnig i bob un copi o’r gerddoriaeth, aeth Dyfrig ragddo i esbonio fod rhai yma yn eglwys Minny Street sydd yn debyg i’w gilydd ac sydd felly’n gallu gweithio’n dda fel tîm. Llesol yw cael pobl debyg ei gilydd i gydweithio fel hyn. Mae rhai, serch hynny sydd yn gweithio’n well ar eu pen eu hunain. Mae rhain hefyd yn fawr eu cyfraniad i fywyd a chenhadaeth yr eglwys
Beth yw’r gerddoriaeth i ni yma yn eglwys Minny Street - rhywbeth yr ydyn ni gyd yn ei ddilyn? Daeth yr ateb o sawl cyfeiriad: y Beibl. Nid yr un nodau sydd gan bawb gan fod pob offeryn yn wahanol, ac nid yw pob Beibl yn edrych yr un fath. Gwell gan rhai Beibl William Morgan, ac eraill beibl.net. Mae Beibl i gael i'r plant ac i’r plantos lleiaf. Nid yw pob Beibl yn edrych yr un fath, ond er mor amrywiol y Beiblau, un neges sydd: Duw cariad yw. Felly ar ôl derbyn eu copïau ‘roedd y gerddorfa eto'n barod i chwarae. Bu ychydig o welliant, ond dim llawer! ‘Roedd pawb wedi dechrau ar wahanol adegau, ‘roedd amrywiaeth mawr yn nhempo’r offerynwyr. Erys yr amherseinedd, ond ‘roedd bellach mymryn lleiaf yn haws ar y glust! Unwaith eto, cafwyd cymeradwyaeth digon cwrtais gan y gynulleidfa.
Awgrymwyd I Dyfrig bod angen arweinydd efallai, a phwy gwell na Enlli. Gan osod ei hofferyn o’r neilltu, cododd Enlli, a chael gafael ar y gerddorfa. Wel, am wahaniaeth! Â phawb wedi dechrau'r un adeg, cafwyd cyd-symud perffaith a swynol, ac o'r herwydd cymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa.
Enlli'n arwain y gerddorfa
Mae angen arweinydd ar gerddorfa, ac mae angen arweinydd ar eglwys. Pwy sydd yn arwain? Ein Gweinidog? Ie, ac na. Ein diaconiaid felly? Eto, ie ac na. Iesu sydd yn arwain mewn gwrionedd. Dilyn Iesu a wnawn - pawb ohonom; dilyn Iesu sydd raid - pawb ohonom - ei bobl ef ydym.
Nid oedd Dyfrig wedi anghofio am y gynulleidfa. ‘Does fawr o bwrpas i’r gerddorfa chwarae os nad oes neb yn gwrando arni. Bydd unrhyw un sydd wedi chwarae mewn cerddorfa neu wedi perfformio’n gyhoeddus yn gwybod bod y gynulleidfa’n bwysig. Mae’r gynulleidfa’n ysgogi’r perfformwyr wneud eu gorau. Felly, mae’r gynulleidfa'r un mor bwysig â’r gerddorfa. O fewn yr eglwys leol, mae pawb yn bwysig; mae lle i bawb, a chan bawb ei gyfraniad: bendith i bawb, gan bawb.
Wedi gair o weddi, daeth cyfle i’r gynulleidfa i ganu hyfryd eiriau T.Elfyn Jones (CFf.:78), i gyfeiliant y gerddorfa.
Oedfa dda, a buddiol oedd hon. Cafwyd hwyl a chwerthin, a phawb o’r ieuengaf i’r hynaf wedi derbyn bendith a her.
Bwrlwm wedi'r Oedfa Foreol Gynnar
Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol. Ers mis Medi, buom yn dilyn cyfres newydd o bregethau, Ffydd a’i Phobl, yn seiliedig ar bennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid. Hanfod y gyfres yw’r cwestiwn "Beth yw ffydd?" ac yn y bennod hon mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn drwy sôn am 16 o Bobl Ffydd. Mae bob un yn cynnig rhan o’r ateb i’r cwestiwn, "Beth yw ffydd" ac o fis i fis buom yn ystyried cyfraniad y naill gymeriad ar ôl y llall i’r ateb. Mae pob un o’r 16 yn llun bychan, a phob llun bychan yn creu un llun - y llun mawr. Erbyn bore heddiw Dafydd a Samuel oedd yn cael sylw’r Gweinidog.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abel mae byw’n ddiolchgar yw ffydd.
Amlyga bywyd Enoch mai ffydd yw meithrin y profiad o bresenoldeb Duw.
Dengys Noa mai gwres perthynas o gariad yw ffydd, ac yng ngwres y cariad hwnnw, parodrwydd i weithio a chydweithio er gogoniant i’r hwn sydd Gariad.
Fe’n hatgoffir gan Abraham mai ‘arwriaeth hardd’ a ‘dewrder gloyw’ yw ffydd.
Amlyga bywyd Isaac nad atodiad i fywyd yw ffydd, ond hanfod byw.
Dangos Jacob i ni mai ymrafael yw ffydd - Duw yn ymrafael â ni.
Dysgwn gan Sara mai ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.
Fe’n hatgoffir gan Isaac ac Esau mai dygymod â siom yw ffydd.
Amlyga Joseff mai ffydd yw trosglwyddo’r ffydd mewn ffydd.
Dangos Jochebed ac Amram mai ymddiried yw ffydd - ni’n ymddiried yn Nuw, a Duw yn ymddiried ynom ni.
Fe’n hatgoffir gan Moses mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’ heb weld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.
Amlyga Moses mai ffydd yw gweld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond ‘gwêl’!
Dangos Bitheia mai ffydd yw gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb yn ddiwahân.
Mae Rahab yn dangos mai ffydd yw mentro. Pwysig bod yn eglwys fedrus; pwysicach bod yn eglwys fentrus.
Dangos Gideon mai ffydd yw ymroi ac ymddiried. Gwir fesur eglwys yw ymroddiad ac ymddiriedaeth ei phobl. Ymroddiad i ddarllen a thrafod y Beibl; ymroddiad mewn cefnogaeth, ffyddlondeb, a chysondeb; ymddiriedaeth yn Nuw trwy weddi, gwasanaeth dygn a chenhadaeth feiddgar.
Dafydd? Ym mhennod gynderfynol Llyfr Cyntaf Cronicl trosglwydda Dafydd ei orsedd i Solomon. Er bod y deyrnas yn unedig a llewyrchus, a ganddi safle a dylanwad arbennig, ychydig iawn o sôn sydd am y pethau hyn: Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml ... Rhoddodd iddo gynllun o'r cyfan a gafodd (gan Dduw) ynglŷn â chynteddau tŷ'r Arglwydd, yr holl ystafelloedd o’i gwmpas ... (1 Cronicl 28: 12-13). Ag yntau ar derfyn ei fywyd sylweddolodd Dafydd mai ei gyfoeth pennaf oedd, nid yr arian a gasglodd, y fyddin gref a adeiladodd na’r system wleidyddol a sefydlodd, ond glasbrint y deml y methodd ei chodi ... Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, "Bydd yn gryf a dewr a dechrau ar y gwaith: paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae’r Arglwydd Dduw, fy Nuw i, gyda thi ... (1 Cronicl 28: 20-21). Mae’r neges yn amlwg, Nid diogelwch a threfn yw gwerthoedd uchaf bywyd. Yn hytrach, gwneud popeth er gogoniant i Dduw. Onid, dyna beth yw ffydd?
Boed fy nghalon iti'n demel,
boed fy ysbryd iti'n nyth:
ac o fewn y drigfan yma
aros, Iesu, aros byth
(William Williams, 1717-91; C.Ff. 698)
Neges syml oedd gan Samuel: cydio o’r newydd yn yr hen symledd. Bu Samuel yn galw am adfer symledd yr hen berthynas agos â Duw fel yr unig ffordd ymlaen. Dyma pam y bu mor wrthwynebus i ddymuniad y bobl am frenin. Nid brenin newydd oedd ei angen arnynt, ond dychwelyd at symled yr hen berthynas â Duw. Beth yw ffydd? ... an old fashioned way to be new. (Robert Frost, 1874-1963; Collected Prose, Vintage, 2001)
Ar ôl enwi 16 o bobl ffydd rhestrir naill ai o’r hyn a wnaeth eraill neu o’r hyn a ddigwyddodd iddynt: y rhai drwy ffydd ... a weithredodd gyfiawnder ... a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel ... Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell (Hebreaid 11:33-35). Gweddill y bennod oedd testun ein sylw yn yr Oedfa Hwyrol. Pwy yw’r bobl hyn tybed? ... a oresgynnodd deyrnasoedd Josua? Arweinydd craff a oresgynnodd deyrnasoedd. a weithredodd gyfiawnder Solomon? Gŵr a ddaeth yn ddiarhebol am ei ddoethineb, Ni fu brenin tebyg iddo ... yn ffefryn gan ein Duw (Nehemeia 13:26a). Daniel? ... caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb (Daniel 5:11). Esra neu Nehemeia afaelodd yn yr addewidion (Esra 10:5; Nehemeia 5:12;13)? Yn sicr, Daniel oedd yr un ... gaeodd safnau llewod. Sadrach, Mesach ac Abednego ... a ddiffoddodd angerdd tân. Gallai dihangodd rhag min y cleddyf fod yn gyfeiriad at Jeremeia (Jeremia 51:50). Ai Heseceia yw’r hwn a nerthwyd o wendid? ... aeth Heseceia’n glaf ... daeth y proffwyd Eseia a dweud, "... yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw’". Trodd Heseceia ei wyneb ... a gweddïo ar yr Arglwydd (2 Brenhinoedd 20: 1-2). O ganlyniad ychwanegwyd 15 mlynedd at ei oes. Omri, efallai ddaeth yn gadarn mewn rhyfel (1 Brenhinoedd 16: 16). Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell - y weddw o Sareffta (1 Brenhinoedd 17:17-24). Hawdd meddwl am y bobl hyn fel arwyr ffydd, ond awgrymodd ein Gweinidog nad dyna fwriad awdur yr Hebreaid; yn hytrach, myn yr awdur fod y bobl gyffredin hyn, trwy ffydd, wedi llwyddo i gyflawni gwasanaeth a gweinidogaeth anghyffredin! Pobl i’w hefelychu ydynt, nid arwyr i’w hedmygu. Â’r bennod ymlaen i nodi’r hyn a ddioddefasant er mwyn eu ffydd: ... eu harteithio ... brofi gwatwar a fflangell ... crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid ... mewn tiroedd diffaith ... ac yn cuddio mewn ogofeydd (Hebreaid 11:36-38). Pobl ffydd yn cael eu herlid, yn aml gan bobl ffydd! Mae ddoe a heddiw’r Eglwys Gristnogol yn drwch o anoddefgarwch a rhagrith. Nid perffaith mo pobl ffydd! Lleda’r Eglwys Fawr, a ffynna’r eglwys leol, dim ond pan fyddwn yn cydnabod a chyhoeddi ein bod yn aelodau o’r Eglwys, nid am ein bod ni, na hithau’n berffaith, ond am ein bod yn gwybod nad perffaith mohoni nac mohonom.
Am hynny, gadewch i ninnau hefyd, gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas ... a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen ... gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd (Hebreaid 12:1-2). Yma cymhwysa Paul esiampl y rhai a restrwyd ym Mhennod 11 at Gristnogion ei ddydd. Safwn ar ysgwyddau eraill. ‘Rydym yma heddiw oherwydd tystiolaeth, argyhoeddiad a dal-i-fyndrwydd y torf o dystion o’n cwmpas. Ymhlith y ‘dorf’ mae hefyd pobl ffydd na chododd bys, hyd yn oed pan ‘roedd angen codi llaw, llais a bloedd. Pobl ffydd na feddyliodd erioed am gynnal fflam, a throsglwyddo ffydd i’r genhedlaeth nesaf. Erbyn 2116 byddwn ninnau ymhlith y torf o dystion o’n cwmpas. Sut bydd y genhedlaeth nesaf yn ein cofio? Cofiwn mai gosod sylfaen a wnawn, creu dyfodol, sefydlu etifeddiaeth.
... i’r ‘fory newydd, O! ein Duw,
dy law i’n tywys dod,
dysg ni i gadw’r fflam yn fyw
er mwyn dy air a’th glod.
(T.R.Jones; C.Ff. 270)
Diolch am y gyfres hon ac am fendithion y Sul.