Ffydd a’i Phobl (8) - Y Gweddill; torf o dystion a rhedeg yr yrfa.
Ar ôl enwi 16 o bobl ffydd rhestrir naill ai o’r hyn a wnaeth eraill neu o’r hyn a ddigwyddodd iddynt: y rhai drwy ffydd ... a weithredodd gyfiawnder ... a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel ... Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell (Hebreaid 11:33-35).
... a oresgynnodd deyrnasoedd Josua? Arweinydd craff a oresgynnodd deyrnasoedd. ... a weithredodd gyfiawnder Solomon? Gŵr a ddaeth yn ddiarhebol am ei ddoethineb, Ni fu brenin tebyg iddo ... yn ffefryn gan ein Duw (Nehemeia 13:26a). Daniel? ... caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb (Daniel 5:11). Esra neu Nehemeia afaelodd yn yr addewidion (Esra 10:5; Nehemeia 5:12;13)? Yn sicr, Daniel oedd yr un ... gaeodd safnau llewod. Sadrach, Mesach ac Abednego ... a ddiffoddodd angerdd tân. Gallai dihangodd rhag min y cleddyf fod yn gyfeiriad at Jeremeia (Jeremia 51:50). Ai Heseceia yw’r hwn a nerthwyd o wendid? ... aeth Heseceia’n glaf ... daeth y proffwyd Eseia a dweud, "... yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw’". Trodd Heseceia ei wyneb ... a gweddïo ar yr Arglwydd (2 Brenhinoedd 20: 1-2). O ganlyniad ychwanegwyd 15 mlynedd at ei oes. Omri, efallai ddaeth yn gadarn mewn rhyfel (1 Brenhinoedd 16: 16). Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell - yn achos mab y weddw o Sareffta, ac Elias yn gweithredu (1 Brenhinoedd 17:17-24), daw’r weddw i gredu iddi gael ei mab yn ôl yn fyw. Hawdd meddwl am y bobl hyn fel arwyr ffydd. Nid dyma'r bwriad; yn hytrach, myn yr awdur fod y bobl gyffredin hyn, trwy ffydd, wedi llwyddo i gyflawni gwasanaeth a gweinidogaeth anghyffredin! Pobl i’w hefelychu ydynt. Â’r bennod ymlaen i nodi’r hyn a ddioddefasant er mwyn eu ffydd: ... eu harteithio ... brofi gwatwar a fflangell ... crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid ... mewn tiroedd diffaith ... ac yn cuddio mewn ogofeydd (Hebreaid 11:36-38). Pobl ffydd yn cael eu herlid, yn aml gan bobl ffydd! Mae ddoe a heddiw’r Eglwys Gristnogol yn drwch o anoddefgarwch a rhagrith. Methodd Martin Luther (1483-1546) â goddef hyn a mynnodd creu gofod, lle gallai newid ddigwydd. Meddai Diarmaid MacCulloch (gan. 1951) amdano: Luther offered a spectacularly disloyal form of loyalty to the church. Onid dyma’r angen yn 2016? Parch amharchus i’r eglwys; teyrngarwch annheyrngar. Lleda’r Eglwys Fawr, a ffynna’r eglwys leol, dim ond pan fyddwn yn cydnabod a chyhoeddi ein bod yn aelodau o’r Eglwys, nid am ein bod ni, na hithau’n berffaith, ond am ein bod yn gwybod nad perffaith mohoni nac mohonom.
Am hynny, gadewch i ninnau hefyd, gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas ... a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen ... gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd (Hebreaid 12:1-2). Yma cymhwysa Paul esiampl y rhai a restrwyd ym Mhennod 11 at Gristnogion ei ddydd. Safwn ar ysgwyddau eraill. ‘Rydym yma heddiw oherwydd tystiolaeth, argyhoeddiad a dal-i-fyndrwydd y torf o dystion o’n cwmpas. Ymhlith y ‘dorf’ mae hefyd pobl ffydd na chododd bys, hyd yn oed pan ‘roedd angen codi llaw, llais a bloedd. Pobl ffydd na feddyliodd erioed am gynnal fflam, a throsglwyddo ffydd i’r genhedlaeth nesaf. Erbyn 2116 byddwn ninnau ymhlith y torf o dystion o’n cwmpas. Sut bydd y genhedlaeth nesaf yn ein cofio? Cofiwn mai gosod sylfaen a wnawn, creu dyfodol, sefydlu etifeddiaeth: ... i’r ‘fory newydd, O ein Duw, dy law i’n tywys dod; dysg ni i gadw’r fflam yn fyw er mwyn dy air a’th glod. (T.R.Jones; C.Ff. 270) Un o glefydau mwyaf ein cyfnod yw gwacter ystyr? Hynny am i ni anghofio bod ystyr bywyd ynot ti dy hun; yr wyt yn llanw’r gwacter trwy dy Air! (W. Rhys Nicholas, 1914-96; C.Ff. 791) Cyflea rhedeg yr yrfa hefyd yr her i fod yr hyn y bwriadwyd i ni fod: plant i Dduw, brodyr a chwiorydd yng Nghrist: pobl ffydd.
Gardd ydyw bywyd ar uchaf y bryn; pa beth dyfwn ynddi? Ai blodau, ai chwyn?
(Penllyn (W. Evans Jones) 1854-1938)
Trwy ffydd, tyfwn flodau er waethaf holl ddycnwch y chwyn: rhedeg yr yrfa. Rhedwn yr yrfa, pobl ffydd ... rhedwn yr yrfa, mewn ffydd gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd ... pob un perchen ffydd.