Ffydd a’i Phobl (7) (Hebreaid 11) - Dafydd a Samuel
... Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes ... Dafydd a Samuel a’r proffwydi … (Hebreaid 11: 32). Dafydd. Yn Llyfr Cyntaf Cronicl ceir Dafydd yn mwynhau cyfnod o heddwch. Er hyn, nid oedd yn gysurus. ’Roedd Dafydd am godi Teml i Dduw; ’roedd y Proffwyd Nathan am i hyn ddigwydd ond nid felly Duw! ‘Roedd gan Dafydd ormod o waed ar ei ddwylo. Er teimlo’n ddigalon; ni wnaeth Dafydd bwdu. Yn hytrach, mae’n cofio a diolch am fendithion ddoe, cynhaliaeth heddiw a gobaith yfory. Yn ei henaint, a gan ystyried diffyg profiad Solomon, â ati i gynorthwyo’i fab. Dechreua godi arian a chasglu’r holl aur ac arian, pres a chopr, haearn, pren a charreg sydd ei angen i gyflawni’r gwaith. Deliodd Dafydd yn dda â’i siom a chofiodd y pethau da. Â ninnau wedi ein siomi, nid hawdd cofio rhyfeddodau bywyd a rhyfeddod byw: daioni pobl, cynhaliaeth cyfeillgarwch, cadernid gweddi a bendith oedfa ... y pethau hynny a ddychwel fy enaid (Salm 23:3). Ym mhennod gynderfynol Llyfr Cyntaf Cronicl trosglwydda Dafydd ei orsedd i Solomon. Er bod y deyrnas yn unedig a llewyrchus, a ganddi safle a dylanwad arbennig, ychydig iawn o sôn sydd am y pethau hyn: Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml ... Rhoddodd iddo gynllun o'r cyfan a gafodd (gan Dduw) ynglŷn â chynteddau tŷ'r Arglwydd, yr holl ystafelloedd o’i gwmpas ... (1 Cronicl 28: 12-13). Ag yntau ar derfyn ei fywyd sylweddolodd Dafydd mai ei gyfoeth pennaf oedd, nid yr arian a gasglodd, y fyddin gref a adeiladodd na’r system wleidyddol a sefydlodd, ond glasbrint y deml y methodd ei chodi ... Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, "Bydd yn gryf a dewr a dechrau ar y gwaith: paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae’r Arglwydd Dduw, fy Nuw i, gyda thi ... (1 Cronicl 28: 20-21). Mae’r neges yn amlwg, Nid diogelwch a threfn yw gwerthoedd uchaf bywyd. Yn hytrach, gwneud popeth er gogoniant i Dduw. Onid, dyna beth yw ffydd?
Boed fy nghalon iti'n demel, boed fy ysbryd iti'n nyth:
ac o fewn y drigfan yma aros, Iesu, aros byth
(William Williams, 1717-91; C.Ff. 698)
Samuel. Hyd yn oed mewn amseroedd tywyll fel diwedd Cyfnod y Barnwyr - nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun (Barnwyr 21:25) -, deil gweddill ffyddlon a dyfal eu ffydd. Dau felly oedd Elcan a Hanna; rhieni Samuel. Bu i Hanna wneud adduned i gyflwyno ei mab i’r Arglwydd (1 Samuel 1:9-28); aeth ag ef i Seilo, at Eli, a’i fenthyg i Dduw. Clywodd Samuel alwad Duw i fod yn offeiriad. Tyfodd yn broffwyd ac yn farnwr; aeth sôn amdano dros yr holl wlad. Anodd bu arwain ac amddiffyn ei bobl ond ‘roedd Samuel yn bregethwr nerthol a di-ofn: ... dychwelwch chwi at yr Arglwydd ... bwriwch ymaith y duwiau dieithr ... a pharatowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig (1 Samuel 7:3). Neges syml oedd ganddo: cydio o’r newydd yn yr hen symledd. Bu Samuel yn galw am adfer symledd yr hen berthynas agos â Duw fel yr unig ffordd ymlaen. Dyma pam y bu mor wrthwynebus i ddymuniad y bobl am frenin. Nid brenin oedd ei angen arnynt, ond Duw. Beth yw ffydd? ... an old fashioned way to be new. (Robert Frost, 1874-1963; Collected Prose, Vintage, 2001)
Dafydd a Samuel. Nid perffaith y naill na’r llall. Bu Samuel yn greulon. Ystyrier ei anogaeth i Saul: Dos, yn awr, a tharo’r Amaleciaid, a’u llwyr ddinistrio ... paid â’u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban ... (1 Samuel 15:3). Eto, rhestrir ei enw fel un o arwyr ffydd! Mynnodd Dafydd ennill Bathseba; onid ei gynllwynio a laddodd Ureia, gŵr Bathseba. Eto fe’i cynhwysir yntau mewn rhestr o arwyr ffydd! Cynnwys y Beibl hanes pobl warts and all, chwedl Oliver Cromwell (1599-1658). Dynol ydynt, ac amlygir eu gwendidau cynhenid yn ogystal â’u rhinweddau; trwyddynt, ac er eu gwaethaf, disgleiriodd golau Duw. Yn a thrwy bobl debyg iawn i ni y gwelwn beth mae Duw yn medru ei wneud gyda phobl a thrwy bobl fel ni.
Beth yw Ffydd? Ffydd yw credu y gall Duw ddwyn i ben ei amcanion ei hun ynom, trwy ein gorau, ac er gwaethaf ein gwaethaf.