Mae trwch ohonom bellach - aelodau eglwysi Anghydffurfiol - yn nodi, os nad ceisio cadw, deugain Diwrnod y Grawys. Da hynny; buddiol ydyw. Anghofir gennym fod deugain diwrnod y Grawys yn arwain, nid at Sul y Pasg, ond yn hytrach at Dymor y Pasg - y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn.
Eleni, ‘rydym fel eglwys yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Mae’r myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, ond bydd y cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Anghrediniaeth Thomas (Ioan 20:24-29), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:
‘Anghrediniaeth Thomas’ Caravaggio (1571-1610)
‘Is it for Real?’ Nazif Topçuoğlu (gan. 1953)
‘Anghrediniaeth Thomas’ John Walters (gan. 1976)
‘Youth’ Ron Mueck (gan. 1958)
‘Youth’ Ron Mueck (gan. 1958)
‘Anghrediniaeth Thomas’ Michael Smither (gan. 1939)
'‘Christ Confirms the Faith of Saint Thomas’ Robert Floyd (gan. 1957)
Nid yw’n anodd cydymdeimlo â safbwynt Thomas. Mae Thomas yn cynrychioli’r meddyliwr gonest a diffuant sy’n gwrthod cofleidio’r Ffydd nes bydd ei reswm wedi ei argyhoeddi o wirionedd y Ffydd. Mae’r agwedd hon yn teilyngu parch bob amser. Nid amau er mwyn amau mae Thomas - nid sgeptig mohono. ‘Roedd wirioneddol awyddus i gredu bod Iesu’n fyw, ond ni allai fodloni ar ffydd ail-law. Yn y pen draw'r unig sail ddigonol i ffydd yw profiad personol o Grist.
Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Testun ein sylw yn y cyfarfod nesaf bydd Cerdded i Emaus (Luc 24:13-35).