'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (19)

'Vzkříšení' (Atgyfodiad) Josef Žáček (gan. 1951)

'Vzkříšení' (Atgyfodiad) Josef Žáček (gan. 1951) Oriel Celfyddyd Fodern Roudnice; Gweriniaeth Tsiec.

'Vzkříšení' (Atgyfodiad) Josef Žáček (gan. 1951) Oriel Celfyddyd Fodern Roudnice; Gweriniaeth Tsiec.

Golau. Petryal olau. Yn y golau, gwelir cysgod y groes. Crëir gan y golau ddrws - drws led y pen ar agor. Trwy’r drws, daw’r golau allan atom, ac fe’n gwahoddir hefyd i gamu dros riniog y drws i’r golau.

Un, daeth un yn ôl

dros riniog y tywyllwch;

daeth un yn ôl.

Dros ffin y cnawd marwol

y mae dystiolaeth, y mae

tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.

(‘O Farw’n Fyw’;

Gwyn Thomas

‘Symud y Lliwiau’, 1981. Gwasg Gee)

Meddai’r Parchedig Walter P. John (1910-1967) mewn pregeth a gyhoeddwyd gyntaf yn 1969: ‘Ni fu’r byd erioed yn beryclach lle, yn enwedig i berchen ffydd’ (Rhwydwaith Duw. Gomer; 1969). Wel, Walter, mae’r byd yn beryclach o lawer erbyn hyn. Peidiwn â synnu felly fod ein crefydda Cymreig yn troi’n greadur amddiffynnol, caeedig, ceidwadol. Y bwriad yw cynnig i’r ychydig ffyddlon sy’n weddill le diogel rhag peryglon y byd: safe house. Safe house y ddiwinyddiaeth digwestiwn; Safe house y credo caeth; safe house credu beth mae pawb arall yn credu fel mae pawb arall yn credu, a drws gwir ffydd ar gau. Dewch i’r Safe house: fe fyddwch yn ddiogel wedyn, beth bynnag a ddigwydd tu faes. Mae hyn yn llwyddo, ac yn sicr yn mynd i barhau i lwyddo, gan mai dyma beth mae’r trwch sylweddol o bobl eisiau mewn byd di-begwn: diogelwch. Er ei lwyddiant, nid yw’n dda.

Maddeued yr ymadrodd hyll, ond count me out. Os mai dyma beth yw ffydd: count me out. Os dyma beth yw bod yn weinidog, ac yn aelod, a chyd-aelod mewn eglwys leol: count me out!

Mae chwip o adnod yn Natguddiad Ioan: ... dyma fi wedi rhoi o’th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau (3:8 BCN). Nid safe house yw ffydd, ond open house. Rhaid dewis rhwng y safe house a’r open house; crefydd cadw neu grefydd menter; crefydd draddodiadol neu grefydd broffwydol.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)