Mehefin 2, 1966 …
6:17yb …
Surveyor 1 - archwilydd ofod NASA yn glanio ar y lleuad, yng Nghefnfor y Stormydd. Er mawr syndod i’r technegwyr, glaniad esmwyth a chwbl ddidrafferth a fu, ac ym mhen hanner awr, ‘roedd Surveyor 1 yn trawsyrru delweddau na welwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen, a hynny dros bellter o 384,400 km.
Delwedd o'r lleuad gan Surveyor 1
50 mlynedd yn ddiweddarach, ‘rydym wedi hen gynefino â’r syniad o ofod-deithio a lloer-droedio. Ers mis Awst, 2014, bu Curiosity Rover yn trawsyrru delweddau na welwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen … o’r blaned Mawrth … 54.6 miliwn km i ffwrdd!
Curiosity Rover
Delwedd o'r blaned Mawrth gan Curiosity Rover
Er cynefino braidd â hyn o deithio ac ymchwilio, amhosibl yw cynefino ag anferth anferthedd anferthol y cosmos ei hun. Gall y ddibendrawdod y cosmos lyncu dyn: Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; pa beth yw dyn, i ti i’w’ gofio? A mab y dyn, i ti ymweld ag ef? (Salm 8:4,5 WM).
Un o anhepgorion ein ffydd yw bod Duw yn ymwybodol ohonom fel unigolion. Rhaid i ti a minnau fanylu neu gyffredinoli; rhaid bod yn eang neu fod yn fanwl. Mae pobl yn gymeriadau rhy fach i fod y ddau, ond Duw mawr sydd gennym. Digon mawr i fanylu a chyffredinoli, digon mawr i wybod popeth am bawb, a'r cwbl am bob un. Mae Duw yn gofalu amdanom ni, ac yn gwylio drosof fi. Ac wrth ofalu amdanom ni, nid yw byth yn esgeuluso fi ac wrth wylio drosof fi nid yw byth yn esgeuluso ni. Mae Duw mor fawr fel y mae'n gallu cofio am yr un yn y llawer, heb anghofio'r llawer wrth feddwl am yr un. Mae ei lygaid ar bawb, ond Ei olwg ar bob un. Diolch i David Jones (1805-68; C.Ff:76) am ddweud cyfan yn syml braf:
Mae Duw yn llond pob lle.
Presennol ym mhob man ...
ond
... y nesaf yw Efe o bawb at enaid gwan.
(OLlE)