Meddiannwyd Sgwâr Tiananmen, Beijing mewn protest, gan hawlio newid cymdeithasol a gwleidyddol. Wedi saith wythnos o brotestio, y dydd heddiw yn 1989, anfonwyd milwyr a thanciau i wasgaru’r tyrfaoedd. Y canlyniad? Anrhefn. Arestiwyd 10,000 o bobl; a channoedd, efallai miloedd yn gelain. Erys un ddelwedd - delwedd nad a’n angof. Ar y 5/6/1989 mynnai un dyn herio’r tanciau. Safodd yn llwybr y tanc blaen ac o’r herwydd safodd y tanciau bob un. Bu’r dyn hwn a’r tanc blaen hwnnw yn ‘dawnsio’ fel petai; y naill yn symud mewn ymateb i symud y llall. Cydiwch yn y ddolen isod os gwelwch yn dda:
https://www.youtube.com/watch?v=YeFzeNAHEhU
Adnabyddir y dyn hwn yn syml fel ‘Tank Man’, a neb - ar wahân i'w anwyliaid agosaf - yn gwybod pwy ydoedd, a beth ddigwyddodd iddo. Un ydoedd; un a safodd i herio grym y tanciau dur. Pa wahaniaeth ddaeth oherwydd safiad hwnnw? Pa werth sydd i gyfraniad pitw bach yr unigolyn? Beth wir, o ddifrif, gall ein cyfraniad ninnau fod? Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn, ystyriwch ddarn o farddoniaeth:
You say the little efforts that I make
Will do no good.
They never will prevail
To tip the hovering scale where
Justice keeps in balance.
I do not think I ever thought they would
But I am prejudiced beyond debate
In favour of my right
To choose which side shall feel
The stubborn ounces of my weight
(Stubborn Ounces: To One Who Doubts the Worth of Doing Anything If You Can’t Do Everything gan Bonaro W. Overstreet, 1903-85)
Disgwyliwn ddyfodiad Teyrnas Dduw, ac un cwestiwn sydd i fi a chi, un dewis sydd, to choose which side shall feel The stubborn ounces of (our) weight.
(OLlE)