Cyhoeddir heddiw (4/6/2016) gan SCCPE manylion cynllun arbennig i aelodau, arweinwyr a gweinidogion eglwysi Cymru.
Adwaenir y cynllun wrth y llythrenw bachog: 'UCO'.
Awgrymir bod aelodau eglwysig yn arddel a gweithredu ar y naw pwynt isod:
1. Yr wyf yn mynd i fod yn gwbl fodlon fy mod eisoes yn cyflawni fy ngalwedigaeth Gristnogol.
2. Ni thrafferthaf i ddarllen y Beibl, gan fy mod yn ei wybod i gyd er pan oeddwn yn blentyn.
3. Cadwaf gyfrif manwl o ddiffygion aelodau eraill, a sut allant fod yn gwneud eu gwaith yn well.
4. Ar ôl pob Cyfarfod Eglwysig, siaradaf yn blaen ar yr hyn y dylasid ei wneud, wedi gofalu bod yn fud yn y cyfarfod ei hun.
5. Ni chymeraf ddiddordeb mewn na Chyngor Eglwysi, Cyfundeb nag Undeb - nid oes a fynnont hwy â ni mewn gwirionedd.
6. Os wyf yn hŷn, beirniadaf y bobl ifanc am beidio â gwneud mwy dros yr eglwys.
7. Os wyf yn iau, beirniadaf y bobl hŷn am fod mor farwaidd.
8. Os gweinidog ydwyf, neu arweinydd, fy agwedd at y gwasanaeth fydd: ‘Bydd yn rhaid iddo wneud y tro.’
9. Pa bryd bynnag y bydd gorchwyl i’w wneud, gadawaf ef bob amser i’r rhai sydd wedi arfer ei wneud erioed yn y ffordd orau y gwyddant.
'UCO'? 'Un Cam yn Ôl' ...
A bod ni ddim yn dymuno cymryd 'Un Cam yn Ôl', rhaid mentro 'Un Cam Ymlaen'.
SCCPE? 'Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Cyngor Peryglus i Eglwysi'? Nid yw’r SCCPE yn bodoli wrth gwrs, ond ...
(OLlE)