'BETHANIA': LLYFR JOSUA (1)

Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni fydd Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Da fuasai darllen y bennod agoriadol cyn dechrau heddiw.

Josua 1:1-5

Ni fu diwrnod duach yn hanes cynnar Israel na diwrnod claddu Moses.

Am flynyddoedd maith bu’r proffwyd oedrannus yn cynnal a chadw ei bobl ar y daith trwy’r anialwch.

Nawr, a’r bobl ar drothwy cyfnod newydd yn eu profiad, ac angen arweinydd profiadol yn fwy nag erioed, rhaid oedd iddynt ddysgu gwneud a bod hebddo.

Yn Abaty Westminster y mae carreg goffa i’r brodyr John a Charles Wesley, ac wedi eu torri arni mae'r geiriau:

God buries the workers but carries on the work.

Dyna’n union a wnaeth Duw yn achos Moses hefyd.

Claddodd y gweithiwr ond aeth ymlaen a’r gwaith.

Hyrwyddodd ei fwriad ar gyfer ei bobl trwy ethol Josua fel arweinydd newydd i’r bobl rheini.

Cyn i’r arweinydd newydd hwn sylweddoli gwir oblygiadau’r neges Moses fy ngwas a fu farw, cafodd orchymyn i arwain y bobl dros yr Iorddonen i wlad yr addewid fawr.

Nid mater bach oedd dilyn Moses, ac mae’n sicr fod Josua wedi teimlo droeon fod hyn oll yn ormod iddo.

Ond, ac mae hyn mor aml yn wir: roedd gan Dduw fwy o hyder yn Josua nag oedd gan Josua ynddo’i hun, ac i dawelu ei ofidiau, addawodd Duw, … byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni’th adawaf na chefnu arnat.

Ffydd ddiysgog yn yr addewid hon oedd cyfrinach llwyddiant Josua.

Llwyddodd Josua i ymddiried yn ymddiriedaeth Duw ynddo.

Ffydd mewn addewid tebyg yw un o nodweddion yr Eglwys Gristnogol ym mhob oes a chyfnod. Pan oedd y disgyblion cyntaf yn wynebu’r dasg enfawr o ledaenu’r newyddion da am Iesu, aethant allan gan gredu’r addewid: ‘Wele, yw wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd’.

Enfawr yw’r dasg i ninnau:

Rhaid cyhoeddi gobaith mewn cymdeithas ac i gymuned sydd yn suddo mewn anobaith.

Rhaid amlygu cariad i gymuned ac mewn cymdeithas sydd yn plygu dan bwysau trais, a rhyfel.

I gyhoeddi gobaith, ac amlygu cariad, rhaid gosod ein ffydd ar waith go iawn.

Fel Josua, bydd rhaid dysgu ymddiried yn ymddiriedaeth Duw ynom.

Ei ffydd ef ynom sydd yn cynnal ein ffydd ninnau ynddo.

Yn ei obaith, gobeithiwn.

Ei gariad ef sydd yn dysgu ein cariad ni.

Josua 1:6-9

Ar ddechrau’r bennod mae Josua’n derbyn cyfarwyddyd pendant ynglŷn â’r gwaith sydd o’i flaen.

Meddai Duw wrtho, Cyfod, croesa’r Iorddonen, ti a’r genedl gyfan, a chymer feddiant o wlad Canaan.

Ond wrth fynd ymlaen, sylwn mai anogaeth a geiriau o galondid, yn hytrach na chyfarwyddiadau, sy’n cael y lle blaenaf.

Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda ac nac ofna (9), yw neges yr ARGLWYDD Dduw. Nid gallu Josua i ymdrin â chynlluniau a thacteg filwrol sy’n holl bwysig yn y pendraw, ond ei barodrwydd i feithrin y nodweddion hynny sy’n angenrheidiol i bob arweinydd, sef nerth, dewrder a ffydd.

Nerth. Gwyddai Josua yn iawn pa mor anwadal a lletchwith y medrai’r bobl hyn fod. Am ddeugain mlynedd bu’n dyst o’r drafferth a’r rhwystredigaeth a ddaeth i Moses o’u herwydd. Nid oedd ganddo unrhyw reswm i gredu y byddai’r bobl hyn yn newid cymeriad a natur dros nos. Roedd angen arweinydd cadarn i gadw trefn ar gwmni o’r fath.

Dewrder. Nid agwedd ei bobl ei hun oedd yr unig beth a boenai Josua. Wedi croesi’r afon, byddai’r Israeliaid yn wynebu’r Canaaneaid, pobl ryfelgar a oedd - yn naturiol er tegwch - yn barod i ymladd i’r eithaf er mwyn amddiffyn eu treftadaeth. Wrth groesi’r afon, roedd angen dewrder.

Ffydd. Ond er cymaint ei nerth a’i wroldeb, ac er iddo lwyddo fel milwr, ni fyddai Josua wedi gadael ei farc ar hanes heb fod ganddo ffydd. Roedd hwn yn credu yn addewidion Duw. Addewidion sydd yn britho ‘llyfr y gyfraith’ - fel mae’r awdur yn galw rhan o’r Pum Llyfr. Roedd Duw wedi addo y byddai ef gyda’i bobl, a bod Canaan yn eiddo iddynt. Dyma’r ffydd a symbylodd Josua i dderbyn yr her anferthol a roddwyd iddo.

Dyma’r rhinweddau a berswadiodd yr Israeliaid i ddilyn eu harweinydd newydd ac i ymddiried ynddo. Yn sicr, fe fyddai gwell siâp ar ein byd ninnau pe bai teyrngarwch at arweinwyr yn dibynnu ar amlygrwydd y nodweddion hyn yn eu bywyd. 

Josua 1:10-18

Ymhell cyn i Josua arwain yr Israeliaid dros yr Iorddonen i’r cartref newydd yng Nghanaan, roedd rhai wedi ymgartrefu eisoes ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Cafodd llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse ganiatâd gan Moses i wneud hynny, ar yr amod eu bod yn cynorthwyo i ymladd y Canaaneaid pan ddeuai’r cyfle i feddiannu’r wlad. Nid oedd hawl gan unrhyw un i ymlacio a mwynhau ffrwyth buddugoliaeth cyn i bab dderbyn ei wobr. Ceir yr hanes i gyd yn Numeri 32.

Yn yr adnodau hyn y mae Josua yn atgoffa Reuben, Gad a Manasse o’r addewid a wnaethant i’r rhagflaenydd, ac yn galw arnynt i’w ddilyn dros yr afon. Er eu bod hwy yn cael eu dymuniad ac yn ddigon bodlon ar eu byd, yr oedd dyletswydd arnynt gynorthwyo gweddill y llwythau.

Gwyddai Josua fod llwyddiant y fenter yn dibynnu ar barodrwydd y genedl gyfan i gydweithio, cyd-dynnu a chyd-symud. Dro ar ôl tro, y mae hanes cynnar Israel yn gwireddu’r ddihareb: mewn undeb mae nerth.

Y mae’r un peth yn wir am genhadaeth yr Eglwys Gristnogol. Cyfeiria Paul at yr Eglwys fel corff Crist, gan dynnu sylw at y ffaith mai ‘nid un aelod yw’r corff ond llawer (Gweler 1 Corinthiaid 12:12-26). Felly, os yw’r corff am ffynnu rhaid i bob rhan ohono wneud ei briod waith.

 

 

.