Ein Hoedfa Foreol. Dewch â chroeso!
Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol ein Gŵyl Flynyddol: Oedfa lawn fel wy! Pedr; gwerthu bara: Amma, Joshua a Rostropovich fydd gan Owain ar ein cyfer! Yn ystod yr oedfa byddwn hefyd yn croesawu cynrychiolydd o Ganolfan Maggie’s i rannu gwybodaeth am ein helusen eleni. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at ein helusen, Maggie’s, a chyfle yn ogystal i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.
Cynhelir Ysgol Sul; dysgu am y Deuddeg Disgybl.
Liw nos (18:00), edrychwn ymlaen at gael derbyn o genadwri pregethwr gwadd ein Gŵyl Flynyddol - y Parchedig Evan Morgan. Bugail gofalus Salem, Treganna. Gwiw gennym ei groesawu atom. ‘Rydym yn gwybod y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar yr oedfa. Hyfrydwch hefyd fydd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas nos Sul; diolch am eu cefnogaeth ohonom. Hyfryd yw pob cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at ein helusen, Maggie’s, a bydd cyfle hefyd i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd. Parhawn mewn cymdeithas dros baned yn y Festri wedi’r Oedfa a bydd nwyddau Masnach Deg ar gael.
18/9: Taith i’r Eglwys Eidalaidd, Pont Henllan (angen bod wedi archebu ymlaen llaw).
Babimini bore Gwener (20/9; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.