• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

September 6, 2019 Owain Evans

Yr Oedfa Foreol Gynnar

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (8/9 am 9:30 yn y Festri). Testun ein sylw fydd un o ffrindiau Iesu ... ond pa un?

Bydd rhaid i chi ddyfalu!

Dewch â chroeso.

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Ein Hoedfa Foreol: Lliw a Llun

Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan ddechrau ar gyfres newydd o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun sydd gan Owain ar ein cyfer. Gellid rhag blaen ystyried yn weddigar yr adnodau hyn:

Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. (Salm 62:1)

... ymddiddenwch â’ch calon ..., a thewch. (Salm 4:4)

A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. (Philipiaid 4:7)

Liw nos (18:00), dechrau cyfres arall eto: Josua. Y bwriad yw ymdrin â’r llyfr anodd hwn mwy neu lai fesul pennod. Josua fydd testun trafod a dysgu Bethania eleni. Boed bendith. Da fuasai darllen Josua 1 rhag blaen.

Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd cyfle hefyd i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr.

PIMS nos Lun (9/9; 19:00-20:30 yn y Festri): Croesawu, ffarwelio, Pitsa a Oh, the places you’ll go! gan Dr Seuss (1904-91).

Nos Fawrth (10/9; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (11/9): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Trafodaeth ar ddefnydd emynau yn ein gwasanaethau, yn eiriau a thonau (arweinir y drafodaeth gan Euros Rhys Evans a Delwyn Siôn). 12/9 (19:30) ym Minny Street. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

Ein Hoedfa Hwyrol a ‘Bethania’ 2019-2020

← 'BETHANIA': LLYFR JOSUA (1)'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021