Bore Sul am 10:30, Oedfa Gymundeb.
Homil Bore Sul
Bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau: Coed.
Beth yw’r cysylltiad rhwng y duw Eifftaidd Thoth; y brenin Persiaidd Xerxes; Romeo yn glaf o gariad a Sacheus?
Y sycamorwydden yw’r ateb.
Da fuasai darllen rhag blaen Luc 18:35-19:10.
Gan ddychmygu mai chi yw Sacheus, sut buasech yn ymateb o sylweddoli fod Iesu yn dod i’ch tŷ chi?
Yng nghyd-destun hanes Sacheus, trafodwch eiriau Elbert Hubbard (1856-1915): Through sin do men reach the light.
Ystyriwch hefyd yr adnodau hyn:
... mab i Abraham yw’r gŵr hwn yntau. (Luc 19:9)
Gwelodd Duw'r cwbl a wnaeth ac yr oedd yn dda iawn. (Genesis 1:31a)
Cofiwch am Ras 10K (a 2K) Caerdydd bore Sul. Mae’n debyg y bydd taith yr aelodau sydd yn dod o gyfeiriad Llandaf , Treganna a Pontcanna yn cael ei effeithio.
Pregeth Nos Sul
Nos Sul am 18:00, cyfres newydd arall yn dechrau: Hoff Adnodau.
Ein man cychwyn fydd: ... daeth y Gair yn gnawd ... yn llawn gras a gwirionedd. (Ioan 1:14)
Nef a daear, yng Nghrist, ymhlyg yn ei gilydd! Cariad Duw tuag atom, gwaith Duw trosom, nerth Duw ynom ... hyn oll yn gnawd!
Am hynny, nid oes yr un sefyllfa ddynol yn anobeithiol mwyach!
Da fuasai darllen rhag blaen Ioan 1:1-18. Yn weddigar, ystyriwch ‘diffiniad’ Elfed ap Nefydd Roberts o Ras Duw: Cariad achubol Duw yn ein cymodi ag ef ei hun a’r cariad hwnnw yn dod yn eiddo i ni yn Iesu Grist ac yn nerthu, yn ail-greu ac yn cyfeirio bywyd, dyna yw gras.
A bod cyfle, trowch hefyd at Rufeiniad 5:2 - Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw; ac Effesiaid 3:20-21: Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni. Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.