• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

January 13, 2017 Owain Evans

Dydd Sul bydd ein Gweinidog y parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Hyd yn hyn: Nathanael a Philip; Paul, Silas a Timotheus yn Thesalonica; yr ardderchocaf Theoffilus; Eutychus y cysgadur; Joseff a elwir Barnabas; Phebe, Ffelix, Silas, Sacheus ... a thestun ein sylw yn yr Oedfa Foreol fydd Iddew o’r enw Apolos i Effesus, Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau (Actau 18:24). Arweinydd call oedd Apolos. Gan ei fod yn barod i gydnabod ei ddiffyg deall, ‘roedd yn barod i dderbyn cyngor a chyfarwyddyd gan Acwila a Priscila.

Bydd yr Ysgol Sul yn ail-ddechrau dydd Sul. Thema’r mis yw ‘Amynedd’ (Galatiaid 5:22 beibl.net). Arweinir defosiwn yr ifanc gan Gruffydd ac Alys. Thema adnodau’r oedolion fydd Addewid/Addewidion. Cawn gyfle hefyd i droi at y Wal Weddi gan ystyried natur hirymaros ein Duw. Y mae Duw’n amyneddgar. Nid yw’n brysio. Nid oes dim yn fyrbwyll ynddo.

Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.

Ceir cofnod o ddigwyddiadau cyffrous yn Actau 16:19-40. Sonnir yno am guro â gwiail, carchar, ceidwad carchar, cleddyf, canu, credu, Crist a bod yn gadwedig. Paul, Silas a’r gân ganol nos fydd testun ein sylw liw nos (18:00).

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r flwyddyn newydd.

Os nad ydych eto wedi ymweld â’r Gymdeithas, cofiwch fod croeso i chi a byddwch yn siriolach wedi bod yno. (17/1; 19:30 yn y Festri) ‘Byw Celwydd’ yng nghwmni Branwen Cennard.

Babimini bore Gwener (21/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

Darperir myfyrdod a gweddi bob dydd ar ein gwefan i nodi'r Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol 2017 (18/1-25/1)

← SALMEIN GWEINIDOG A’R TATŴ →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021