'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Maen nhw ym mhob man! Ambell un ag un, a rhai wedyn yn drwch ohonynt! Oes pawb ag un? Ymddengys felly! Na, nid pawb, ond un o bob pump yn ôl yr ystadegau. Ymhlith oedolion ifanc, un o bob tri. Athletwyr, beirdd, peldroedwyr, cantorion, diddanwyr ac ... ie, gweinidogion ag un neu ragor o rain. Mae un o bob pedwar yn difaru eu cael. Os nad ydych eisoes wedi dyfalu, testun y ‘Munud i Feddwl’ yr wythnos hon yw croenliwiadau, neu datŵs.
Wn i ddim amdanoch chi, ond weithiau yn tŷ ni - tua chanol yr wythnos rhan amlaf - gall y sgwrs wrth fwrdd swper gymryd ambell droad annisgwyl. Swper cyffredin ddigon ydoedd cyn ‘Dolig, ac un o’r plant yn gofyn: "Pa mor hen sydd eisiau i chi fod i gael tatw?" Wedi imi godi oddi ar y llawr ... aeth y sgwrs i gyfeiriad y swreal. Rhagor am hynny maes o law.
Ers yr amser swper hwnnw, daeth tatŵs yn destun diddordeb a sylw gennyf. Maen nhw ym mhob man! Er nad ydwyf fel arfer yn mentro’r fath sgyrsiau, ‘rwyf wedi manteisio ar y cyfle i ofyn hanes ac arwyddocâd ambell datŵ.
Gall datŵ fod yn ddatganiad. Cafodd un dyn datŵ i nodi geni pob un o’i blant - mae ganddo bedwar. Cafodd dyn arall datŵ i nodi ei rhyddhad o garchar. Ar sail yr enghreifftiau hyn, gellid awgrymu fod pobl yn cael tatŵ i nodi a chofio digwyddiad o bwys. Arwydd ydyw/ydynt o gyrraedd carreg filltir.
Mi ddoes ar draws ambell Gristion sydd â thatw. ‘Roedd gan un, eiriau Luther ar draws ei gyhyryn deuben (bicep): Simuel Justus et peccator. Lladin; prin iawn y bobl a fuasai’n deall y geiriau. Pam cael y tatŵ felly? Pa ddiben sydd i’r inc? Wedi gofyn, dyma’r ateb a gefais: mynegiant ydoedd o’r gwirionedd amdano ac am bob perchen ffydd. ‘Rydym ar yr un pryd yn gyfiawn ac yn bechadur - Simuel Justus et peccator. Myn Cristion arall sydd â thatŵ twt ar ei braich (Gweler y llun uchod) mai datganiad ydyw o ffydd a phrofiad: God (G) is greater (►) than the highs (▲) and lows (▼).
Gall tatŵ felly fod yn gyfrwng i berson cael datgan rhywbeth o bwys am ei hunaniaeth. Dylid ceisio gwrando neges yr inc.
Heb wadu hyn o wirionedd, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gen i ofid cyffredinol am datŵs. Mentraf awgrymu fod y twf syfrdanol mewn tatŵs yn gynnyrch, ac yn fynegiant o ddryswch cynyddol pobl ynglŷn â’u hunaniaeth. Â ninnau’n ansicr o bwy a beth ydym fel pobl, marciwn ein hunain i fynegi, os nad ar adegau i greu ein hunaniaeth.
Credaf, fel Cristion, mai o Dduw y daw ein hunaniaeth, ac ymhlith pobl Dduw y dylid mynegi pwy a beth ydym. Mae pob Cristion wedi ei farcio. Mae’r marc yn annileadwy. Marciwyd ni â chroes adeg ein bedydd. Dyma’r marc sy’n mynegi ein hunaniaeth. Dyma pwy a beth ydym: plentyn i Dduw.
Eiddo Duw ydym; mae ein hunaniaeth yn tarddu o fwriad Duw yng Nghrist ar ein cyfer. Fel plentyn i Dduw, gyda phlant Duw, gellid mynegi orau ein hunaniaeth: bwydo’r newynog; byw gyda, a thros y tlawd; gofalu am y claf. Hanfod ein ffydd yw marcio ein byw yn ddwfn ag inc gwasanaeth a gweinidogaeth. Credaf fod y cynnydd mewn tatŵs yn arwydd o’n methiant i gyfleu hynny i bobl. Yr unig lwyddiant i ymgyrraedd ato yw argyhoeddi pobl mai plant i Dduw ydynt; gwrthrych ei gariad a hynny drwy fod yn gyfryngau i’r cariad hwnnw. Heb lwyddo yn hynny, llwyddiant amheus fydd ein llwyddiant mwyaf.
Yn ôl at y sgwrs swreal honno wrth fwrdd swper. Wedi gweld anesmwythyd y tad, bu’r plant yn prysur hel syniadau am y fath o datŵ a fuasai’n addas iddo. Wedi i fam y plant yma ymuno yn hyn o beth, pesychais yn bregethwrol, a chyhoeddi bod adnod yn Lefiticus sydd yn gwahardd tatŵs! Gan fod y tri arall wrth y bwrdd yn gwybod llai hyd yn oed na fi am gynnwys Lefiticus, crëwyd cyfle i mi gael newid y pwnc! Ond, wedi chwilio ... Mae yna adnod felly yn Lefiticus! 19:28 - Nid ydych i wneud toriadau i’ch cnawd ... nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw’r ARGLWYDD.
Ond, nid dyna ddiwedd y mater ... Wrth drafod hyn â chyfaill yn ddiweddar, awgrymodd hwnnw fod gan Dduw tatŵ! Dyma’i dystiolaeth am y fath ddatganiad: Edrych, ‘rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo ... Eseia 49:15. Ie, plant i Dduw ydym; gwrthrych ei gariad.
(OLlE)