Fel pren afalau ymhlith prennau’r goedwig
yw fy nghariad ymysg y bechgyn.
(Caniad Solomon 2:3 BCN)
Dyma ymateb y gariadferch: Fel pren afalau ymhlith prennau’r goedwig. Y mae’n sefyll allan - nid oes tebyg iddo. Eir ymhellach, cyfeirir at werth y pren:
Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ar yr oedd ei ffrwyth yn felys i’m genau.
Mae’r goeden yn ddefnyddiol; daw hynny â ni i lawr o fyd rhamant i fod â’n traed ar y ddaear! Yng ngwres y dydd, rhaid wrth gysgod. Codiodd pobl ffydd yn y darlun - yng ngwres ein profiad, buddiol yw cael profi cysgod gofal ein Duw. Cafodd William Williams (1717-91) afael ar ysbryd y darlun pan ganodd am y
Cysgod dano i’r ffyddloniaid
o foreddydd i brynhawn.
Benthycwn brofiad John Thomas, 1742-1818 yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Pwy welaf fel f’Anwylyd,
yn hyfryd ac yn hardd,
fel ffrwythlon bren afalau’n
rhagori ar brennau’r ardd?
Ces eistedd dan ei gysgod
ar lawer cawod flin;
a’i ffrwyth oedd fil o weithiau
i’m genau’n well na gwin. Amen.
(OLlE)