'Christ Confirms the Faith of Saint Thomas' Robert Floyd (gan. 1957)
'Christ Confirms the Faith of Saint Thomas' Robert Floyd (gan. 1957)
Mae gen i gydymdeimlad â’r dyn: Thomas.
Dyma ychydig sylwadau o eiddo’r pregethwyr. Meddai Puleston Jones (1862-1925): ‘Gŵr a garai’r cwmwl oedd Thomas’. Wel, chwarae teg nawr Puleston! Rhaid cofio mai ar ddiwrnodau tywyll, caled yn ei brofiad y cawn gwrdd â Thomas yn yr Efengylau. 'Does dim disgwyl i neb fod yn heulog yng nghanol ergydion y storm! Mae Alexander Whyte (1836-1921), un o dywysogion pulpud yr Alban, yn dweud fel hyn: Thomas was too great a melancholic to speak much, and when he did, it was out of the depths of his hypochondrical heart. Tybed? Nid yw tawelwch o angenrheidrwydd yn arwydd o enaid prudd a meddwl lleddf. Fe all fod y gwrthwyneb yn wir! A William Barclay (1907-1978): Thomas was a born pesimist. Pum air i grynhoi cymeriad cyfan, a’i grynhoi ar gam! Er mwyn gwneud chwarae teg â Thomas, dylid meddwl amdano fel realydd. ‘Roedd yr awdurdodau crefyddol yn Jerwsalem yn chwilio ffordd i ladd Iesu. ‘Roedd y cwmni wedi llwyddo i ddianc, ond daeth y newydd trist am Lasarus, ac 'roedd rhaid, wedyn dychwelyd i Bethania. Hawdd ddigon dychmygu ofn y disgyblion, ac aethant yn fud - do, bob un. Un llais sy’n torri ar y distawrwydd, llais Thomas: Awn ninnau hefyd fel y byddom feirw gydag ef! (Ioan 11:16 BCN). Awgrym pesimistaidd iawn, ond y mae’n bwrw golau gobeithiol iawn ar gymeriad Thomas.
Gonestrwydd oedd ei ymateb ynghylch geiriau Iesu yn yr oruwch ystafell: ... os af a pharatoaf le i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi. Eto tawelwch. Y disgyblion yn fud. Pob un yn deall? Sgersli bilîf! Un llais sy’n torri ar y distawrwydd, llais Thomas: Arglwydd, ni wyddom ni i ble’r wyt yn mynd. Sut gallwn wybod y ffordd? Mae’r gofyn gonest hwnnw’n arwain at y geiriau a fu’n gynhaliaeth i genhedlaeth ar ôl genhedlaeth o Gristnogion: Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:5,6 BCN). Ac am y nos Sul honno, a’r ffaith nad ydoedd gyda’r gweddill - ing galar oedd hwnnw. A beth sydd fwy naturiol o golli’ch ffrind gorau?
I Thomas, mater o weld oedd credu: Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo ... (Ioan 20:25 BCN). Mae Robert Floyd (gan. 1957) gyda ‘Christ Confirms the Faith of Saint Thomas’ yn dal yr eiliad honno pan sylweddola Thomas mai mater o gredu yw gweld: Fy Arglwydd a’m Duw! (Ioan 20:28 BCN).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)