Yr Anastasis (Atgyfodiad) 14 ganrif. Mosg Kariye, Istanbul
Yr Anastasis (Atgyfodiad) 14 ganrif. Mosg Kariye, Istanbul
Beth ddigwyddodd i Iesu Grist yn yr amser rhwng ei farwolaeth a'i atgyfodiad?
Efallai iddo fynd i'r lle y mae'r meirw yn mynd iddo. Dywedodd Pedr yn ei bregeth ar Ddydd y Pentecost fod Dafydd wedi rhagweld ei atgyfodiad pan ddywedodd Canys ni adewi fy enaid yn uffern (Actau 2:31 WM). Yn Efengyl Mathew, dywedir i Iesu wrthod rhaid arwydd i'r rhai a'i holai ond arwydd Jona, ac ychwanegu Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos (Mathew 12:40 BCN). Disgynnodd Iesu felly, fel pawb arall, i diriogaeth marwolaeth. Ond nid oedd y Cristnogion cynnar yn fodlon ar yr eglurhad uchod, oherwydd gofynnent beth wnaeth Iesu yn nhiriogaeth marwolaeth gan iddo ddisgyn yno? Credwyd iddo fynd i bregethu'r Efengyl i seintiau'r Hen Destament ac i'w hachub o afael marwolaeth.
Yn ddiweddarach awgrymwyd fod Iesu wedi goresgyn tiriogaeth marwolaeth - disgynnodd i'r tywyllwch eithaf fel concwerwr. O'r herwydd, cyhoeddwyd mai marw marwolaeth. 'Roedd goleuni'r byd wedi concro holl alluoedd y tywyllwch. Gwelir ef fel brenin yn ennill ei deyrnas drwy goncro marwolaeth, a dwyn tiriogaeth marwolaeth i'w feddiant ei hun.
Yn yr Anastasis hwn (ceir nifer fawr o wahanol enghreifftiau) gwelir mynegiant gweledol o’r uchod. Dyma'r Crist byw, bendigedig ai fywyd newydd ysblennydd yn wawl serennog amdano. O dan ei draed, gwelir drysau tiriogaeth marwolaeth - chwalwyd pyrth y bedd! Marwolaeth wedi marw, a holl offer ei greulondeb ar chwâl. Gerfydd yr arddwrn - eiddo Crist, a Christ yn unig yw'r grym achubol - codir Adda (yr hen ŵr ar y chwith), ac Efa (ar y dde) yn rhydd o'r bedd. Ar y chwith, gwelir y Bedyddiwr, Ioan yn cyfeirio nawr, fel y gwnaeth erioed at Grist: Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd (Ioan 1:29 BCN).. Tu ôl iddo, y brenhinoedd Dafydd a Solomon. Erys y brenhinoedd hyn eu tro i gael dianc rhag gafael marwolaeth. Rhaid wrth gymorth Brenin y brenhinoedd. I'r chwith gydag Efa, y Bugail Abel - y cyntaf oll i farw: y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd (Genesis 4:10 BCN). 'Roedd gwaed - marw - Abel yn eiriol, ond gwaed - marw - Iesu sydd yn gwaredu: ... mae gwaed Iesu ... yn ein glanhau ni o bob pechod (1 Ioan 1:7b BCN). Gydag Abel saif y proffwydi efallai, bob un yn aros am y cyfle i brofi bywyd newydd yn, ac oherwydd y Crist buddugol hwn.
Cododd Iesu!
Ocheneidiau droes yn gân
(E. Cefni Jones, 1871-1972. CFf.550)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)