Canwch ... o’ch calon i’r Arglwydd ... (Effesiaid 5: 19b)
Beth yw cyfrinach cerddoriaeth? Beth yw cerddoriaeth? Cyfaddefodd Ludwig van Beethoven (1770-1827) nad oedd yn gwybod yr ateb! Pa obaith felly ...
Beth yw cerddoriaeth? Cân aderyn ben bore? Crawcian diamynedd brain wrth iddynt redeg ras gysgu â’r haul? Bwrlwm nant yn nhawelwch dwfn yr ucheldir? Symffoni’r don, rhythm llanw a thrai - Daw o drai lanw’r eilwaith (Dic Jones, 1934-2009). Hwiangerdd? Protest? Opera, jazz, reggae? Beth yw cerddoriaeth? Sŵn cefndirol - sŵn llipa, llwyd, disylw mewn siop neu lifft? Mozart, Mendlessohn a Meghan Trainor? Wagner a Schubert, John ac Alun, Justin Bieber a One Direction? Verdi, Debussey, Lukas Graham, Mynediad am Ddim a Cowbois Rhos Botwnnog?
Messiah Handel a Love Supreme John Coltrane? Beth yw cerddoriaeth? Onid diddorol rhestri’r amrywiol fathau o gerddoriaeth sy’n bodoli ... er bod y nodau a ddefnyddir yr un fath yn union. Diddorol? Yn sicr. Gwyrthiol hefyd! Mae cerddoriaeth yn bopeth ac yn ddim. Apêl tragwyddoldeb Dyfnder a eilw ar ddyfnder ... (Salm 42:7a), neu dim ond cefn-sŵn. Smotiau ar bapur, neu’r nefoedd yn cyhwfan. Ias, neu gâs?
Disgwyliwn cymaint gan ac oddi wrth gerddoriaeth. Disgwyliwn i gerddoriaeth ... ein llonni a’n hysbrydoli ... i ddeffro, neu adlewyrchu neu fynegi ein teimladau ... ein llonyddu. I symud gofid; i esmwytháu dolur; i ddileu dryswch; i boethi’r gwaed. Disgwyliwn gan gerddoriaeth harmoni mewn byd aflafar.
Beth yw cyfrinach cerddoriaeth? Sut mae cerddoriaeth yn llwyddo i gyfleu’r hyn na all ein geiriau gorau ei gyffwrdd? Sut mae’r cyfuniad o emyn a thôn yn medru codi ein moliant drwy do’r capel ... fy nymuniad gwyd i’r nef ar adain cân (Gwyrosydd, 1847-1920; C.Ff. 780), tra bod y cyfuniad o’r Gair a’r geiriau yn llipa a lleddf? Nid pregethau John Wesley, meddai Moelwyn, eithr emynau ei frawd Charles, a roddes Brydain ar dân. (John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) (1866-1944) yn Pedair Cymwynas Pantycelyn. Cyh. A & M Hughes, 1922) Mae geiriau fel llinynnau pysgota yng ngrog dros ochr y cwch yn bachu syniadau wrth iddynt agosáu at yr wyneb. Mae cerddoriaeth, ar y llaw arall, fel llusgrwyd, yn treillio ein dyfnder, gan sugno a chodi'r holl bethau sy’n byw a digwydd yno i fyny i’r wyneb. Gwyddom am rywfaint o’r hyn a ddaw o’r dyfnder i’r wyneb; cyfarwydd ydyw ar y cyfan, ond fe ddaw hefyd i’r golwg deimladau, a rhyw gymysgedd o deimladau na wyddwn amdanynt. Rhai ohonynt y buasai’n dda gennym beidio gorfod gwybod amdanynt, ac eraill y byddem wrth ein bodd pe baent yn codi’n amlwg i wyneb ein byw yn llawer mwy aml.
Perthyn i bawb ohonom, rhyw bethau na ellir eu mynegi na’u cyfleu, hyd yn oed gan ein geiriau gorau ar eu gorau. Gall cerddoriaeth ddeffro’r hyn ynom sydd yn cysgu; gall amlygu’r hyn ynom sydd yn cuddio a bywiocau’r hyn ynom sydd yn prysur ddiffodd. Gall cerddoriaeth godi o farw’n fyw'r hyn a fu farw ynom. Mae cerddoriaeth yn cynnal yr hyn sy’n fregus, yn cyfannu’r yr hyn a dorrwyd ac yn meddalu’r hyn sydd wedi ymsolido.
Canwch ... o’ch calon i’r Arglwydd ... A sut mae canu o’m calon i Dduw? Beth yw ystyr y geiriau hyn? Onid canu o’m calon i Dduw yw cynnig libreto ein bywyd i Dduw. Caniatáu i Dduw osod geiriau ein byw a’n bod i gerddoriaeth ei ewyllys ar ein cyfer. Mae Tymor y Pasg - y deugain a deg diwrnod, rhwng Sul y Pasg a’r Sulgwyn - yn gyfnod ac yn ofod i ni gynnig ein hunain yn ôl i Dduw. Cynigwn iddo’r cyfle i drosi ein byw yn fiwsig cain, a throi ein ffydd yn gân. Amser yw hwn i gydnabod fod angen gosod geiriau ein bywyd - y penillion un ac oll - i gerddoriaeth Duw, fel gall eraill wrando ar y cyfuniad hyfryd o nef a daear, Duw a dyn, gair a chnawd ymhlyg yn ei gilydd.