Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (5): Methiant (Marc 8: 27 - 9: 32)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Rhufeiniaid; dinistriwyd y Deml. Pam? Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Ond pam dilyn Crist? Onid methiant ydoedd? Sut fedrai’r fath fethiant gynnig arweiniad newydd ar gyfer yfory, a gobaith byw i drennydd a thradwy?
Ceir dadl fentrus gan Marc: dylid dilyn Iesu am mai methiant ydoedd! Datganiad Pedr: ... pwy meddwch chwi ydwyf fi? ... "Ti yw’r Meseia." (Marc 8:29) Llwyddiant! Dechreuodd Iesu ddysgu bod ... rhaid i Fab y Dyn ddioddef ... cymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu (Marc 8: 31-32b); y Pedr a wnaeth ddatgan "Ti yw’r Meseia" yn newid ei feddwl. "Dos ymaith ...", meddai Iesu wrtho, ... nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynion. (Marc 8: 33) Trodd awgrym o lwyddiant yn sicrwydd o fethiant. Yna ... dyma Iesu’n cymryd Pedr ... a mynd â hwy i fynydd uchel (Marc 9: 2) Yno, ... gweddnewidiwyd (Iesu) ... Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses ... (Marc 9: 2b-3) Moses: methiant. Aeth Moses i fyny’r mynydd ... Dangosodd yr Arglwydd iddo y wlad ... "... ond ni chei fynd trosodd yno" (Deuteronomium 34: 1 - 5). Wedi arwain y bobl cyhyd nid oedd Moses i groesi i Wlad yr Addewid. Pam? Cades. Yno, dywedodd Duw wrth Moses am ddweud wrth y graig am ddiferu dŵr (Numeri 20: 1-14); bu i Moses daro’r graig ddwywaith. Elias: methiant. Y gystadleuaeth (1 Brenhinoedd 18-19). Proffwydi Baal yn gweddïo am dân o’r nef; dim byd yn digwydd. Elias yn gweddïo a Duw yn amlygu ei nerth a’i allu; tân! Gorchymynnodd Elias fod proffwydi Baal yn cael eu lladd; nid Duw a orchmynnodd y lladd. Daeth gyrfa Elias fel proffwyd i ben: Dywedodd yr Arglwydd... , eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu yn frenin ar Israel, ac Eliseus yn broffwyd yn dy le. (1 Brenhinoedd 19:15 - 16). Moses, Elias ac Iesu; tri methiant ar ben mynydd! Dymuniad Pedr oedd codi tair pabell ... i dri methiant! Diflanna Elias a Moses; ... ni welsant neb mwyach ond Iesu (Marc 9: 10). Gorchymyn Duw ar i’r disgyblion wrando’r neges bod yn ... rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer ... a’i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi (Marc 8: 31). Daw Iesu a’r tri disgybl i lawr o’r mynydd. Yno: gwelsant dyrfa fawr ... Atebodd un o’r dyrfa ... "Athro, mi ddois i â’m mab atat ... wedi ei feddiannu gan ysbryd mud ... Dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant" (Marc 9:14-19). Methiant. Wedi rhoi cerydd i’r dyrfa, a gwers i’r tad am natur credu ... gafaelodd Iesu yn ei law ... a safodd ar ei draed (Marc 9: 27). Llwyddiant. Gweddnewidiwyd Iesu, clywyd llais Duw, adferwyd iechyd i’r bachgen ... tair gwyrth. Llwyddiant. ... dychwelodd Iesu at y gwaith o ddysgu ei ddisgyblion (Marc 9:30); ond meddai Marc: ... nid oeddent hwy’n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi (Marc 9:32) ... methiant. Echel Efengyl Marc (Penodau 8 a 9) yw methiant.
Mae’r Deml yng Nghymru heddiw yn sarn. Rhaid deall beth ddigwyddodd ddoe i ddarganfod y ffordd ymlaen i yfory. Cynnig Efengyl Marc ateb; methiant. Profiad cyfarwydd i bobl Dduw. Daw gweinidogaeth Iesu i ben yng nghanol budreddi a thor-calon Calfaria. Ond, ... daeth y bobl i Wlad yr Addewid er gwaethaf methiant Moses; diflannodd Baal er gwaethaf methiant Elias; ac fe ddaeth y methiant Calfaria yn fuddugoliaeth. Bu ac mae Crist Iesu yn fethiant eithriadol lwyddiannus! Yng nghanol ein methiant, methiannau a methu, byddwn yn ddigon sicr ein cam a hyderus ein hosgo i ddweud, gyda Pedr I.D. Hooson (1880-1948), Gwelais ei wyneb, a chlywais ei lef, a rhaid, a rhaid oedd ei ddilyn Ef. (Seimon, Mab Jona; Y Gwin a Cherddi Eraill; Gwasg Gee, 1948)
Fel Marc a phobl ffydd ei gyfnod, rhaid dilyn Iesu. Doed a ddelo. Dilyn Iesu sy’n gwneud credu yn gyffrous, crefydda’n ddiddorol, a ffydd yn anturiaeth. Os nad yw credu’n gyffrous, crefydda’n ddiddorol, ac os nad yw ffydd yn anturiaeth, nid dilyn Iesu mohonom!