Mwynhad 'Pizza a Pop'
Llawn fel wy! Sul felly oedd hwn. Oedfa Foreol, ‘Pizza a Pop’, gweini te i’r digartref; PIMS yn croesawu ffrindiau o Eglwys Christ Church, Parc y Rhath; Oedfa Hwyrol a Koinônia. Lle mae dechrau tybed? Rhaid dechrau - fel y dechreuwyd yr Oedfa Foreol - gan gofio am Japan ac Ecuador (a Tonga bellach): daeargrynfeydd. Ein bwriad oedd cynnal y galarus a’r timau achub â’n gweddïau:
Molwn enw’r Arglwydd,
Brenin mawr y nef:
Crëwr a Chynhaliwr
bywyd ydyw ef
llechwn yn ei gysgod
pa beth bynnag ddaw,
nerthoedd nef a daear
geidw yn ei law.
Molwn enw’r Arglwydd,
digyfnewid yw;
cryfach na’r tymhestloedd
yw cadernid Duw:
cyfnewidied daear,
cryned seiliau dyn,
pan fo’r byd yn siglo
pery Duw yr un.
(J.J. WILLIAMS, 1869-1954; CFf.126)
Cafwyd defosiwn didwyll a hyfryd iawn gan Cian. Canolbwynt y cyfan oedd hanes Greyfriars Bobby. Wedi adrodd stori'r ci bach ffyddlon, daeth neges gynnil fachog ar i ninnau hefyd fod yn ffyddlon i Grist ac i’n gilydd.
‘Roedd neges ein Gweinidog i’r plant yn dalp o synau: cath yn mewian a llif yn llifio; wedyn organ a gwich drws yn araf agor; awyren yn glanio, 'soch soch' mochyn; cân aderyn; plentyn yn adrodd y wyddor; a rhu llew. Beth oedd diben hyn oll? ‘C’ am ‘Cath’, rhaid defnyddio’r llif i wahanu’r naill ‘l’ o’r llall yn ‘Ll’ gan adael ‘L’; ‘O’ yr organ a ‘D’ y drws. Beth sydd gennym hyd yma felly? ‘CLOD’! ‘A’ yr awyren, ac wedyn ‘M’ y mochyn ac ‘A’ yr adar, heb anghofio ‘W’ y wyddor, ac yn olaf (rhaid eto wrth y llif!) ‘L’ y Llew: CLOD A MAWL. Mae’r cyfan i gyd o’r cyfan oll o’r cyfan i gyd, mynnai’r Gweinidog yn canu clod a mawl i Dduw! Ie, ti a fi, ni a nhw; pawb ymhell ac agos, pob peth fan hyn a fan draw - yn glod a mawl i Dduw.
Nef a daear, tir a môr
sydd yn datgan mawl ein Iôr:
fynni dithau, f’enaid, fod
yn y canol heb roi clod?
(Joachim Neander, 1650-80 cyf. Elfed, 1860-1953; CFf.116)
Testun homili'r Gweinidog oedd Effesiaid 5:19b: Canwch ... o’ch calon i’r Arglwydd ... (BCN) ... canwch fawl yn frwd i’r Arglwydd (beibl.net). Sut mae canu o’n calon i Dduw? Beth yw ystyr y geiriau hyn? Awgrymodd mai canu o’n calon i Dduw yw cynnig libreto ein bywyd i Dduw. Caniatawn i Dduw osod geiriau ein byw a’n bod i gerddoriaeth ei ewyllys ar ein cyfer.
Mae Tymor y Pasg - y deugain a deg diwrnod, rhwng Sul y Pasg a’r Sulgwyn - yn gyfle i ni gynnig ein hunain yn ôl i Dduw. Cydnabyddwn yr angen i osod geiriau ein bywyd - y penillion un ac oll - i gerddoriaeth Duw, fel gall eraill wrando ar y cyfuniad hyfryd o nef a daear, Duw a dyn, gair a chnawd ymhlyg yn ei gilydd.
Bu’r plant a’r plantos yn brysur wrth ei gwersi, gan ganolbwyntio bellach ar baratoi i’r Sulgwyn. ‘Roedd cynnwrf mawr yn eu plith heddiw: Pizza i ginio! Pizza, ie a pop! ‘Pizza a Pop’, a PIMS yn gweini gan obeithio y bydd rywfaint yn weddill iddynt! Cafwyd hwyl i’w ryfeddu. Diolch i Gylch yr Ifanc am fynd i’r afael â’r trefniadau.
PIMS a Phobl Ifanc Eglwys Christ Church
A chan sôn am PIMS, ‘roedd heddiw yn ddiwrnod prysur iddynt: gweini wrth y byrddau'r bore ‘ma, a chroesawu ffrindiau o Eglwys Christ Church, Parc y Rhath prynhawn ‘ma. Datblygiad newydd a chyffrous yw hwn. Buom ar ymweliad â hwythau ym mis Ionawr (10/2). Ein braint oedd cael eu croesawu heddiw. Cafwyd cyfarfod hwyliog a buddiol; a phobl ifanc y naill eglwys a’r llall yn dangos mor hawdd yw Undod Cristnogol. Diolch i Sandra - un o arweinwyr gweinidogaeth Christ Church ymlith yr ifanc - am ei chwmni heddiw, hithau a thrwp o fechgyn! Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r berthynas hon.
Pawb wrth eu gwaith ...
Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.
Liw nos, cafwyd cyfle i barhau a’r gyfres Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70. Dyma’r bumed bregeth yn y gyfres. Cytunir mai Efengyl Marc yw’r gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70.
Ysgrifennwyd y cynharaf o’r Efengylau yn yr un cyfnod â chwymp Jerwsalem a dinistr y Deml tua’r flwyddyn 70. Ysgrifennwyd Efengyl Marc gan Iddew Cristnogol o gwmpas y flwyddyn 70 i argyhoeddi Iddewon Jerwsalem - fod rhaid iddynt nawr a’r Deml yn sarn, derbyn neges Iesu, a dilyn Crist.
Ond, pam?
Pam derbyn neges Iesu Grist?
Pam dilyn Crist?
Methiant ydoedd ...
Gweinidogaeth flêr.
Marwolaeth fudr.
Oedd, ‘roedd si a sôn am fuddugoliaeth fawr, ond dim tystiolaeth; dim tystiolaeth gadarn, ddiamheuol.
Felly, eto ... pam? Pam dilyn Crist?
Pam derbyn neges Iesu Grist?
Sut allasai’r methiant hwn gynnig i Iddewon Jerwsalem arweiniad newydd i yfory, a gobaith byw i drennydd a thradwy?
Ym mhenodau wyth a naw mae Marc yn mynd i’r afael â’r gofyn hwnnw: Pam dilyn Crist? Dadl fentrus sydd gan Marc: dylai Iddewon Jerwsalem ddilyn Iesu yn union oherwydd mai METHIANT ydoedd. Methiant fel bu Moses ac Elias yn fethiant. Myn Marc bod methiant yn brofiad cyfarwydd i bawb o bobl Dduw, gan gynnwys y mawrion Moses ac Elias, a’r mwyaf un, mab Duw: Iesu. Daw ei weinidogaeth i ben yng nghanol budreddi a thor calon Calfaria, ond ... a dyma’r neges sydd gan Marc: daeth y bobl i Wlad yr Addewid er gwaethaf methiant Moses. Daeth diwedd i Jesebel; diflannodd Baal, er gwaethaf methiant Elias, ac fe ddaeth y methiant pennaf oll - Calfaria - yn fuddugoliaeth. Buddugoliaeth, mynnai Marc, sydd yn gynhaliaeth, yn gadernid ac yn obaith i Iddewon Jerwsalem yn y flwyddyn 70. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn - mae’r hen ffordd o grefydda wedi darfod mewn gwirionedd; beth i wneud felly? Fel Marc a phobl ffydd ei gyfnod, rhaid dilyn Iesu. Doed a ddelo, dilyn Iesu: hyn sy’n gwneud credu yn gyffrous, crefydda’n ddiddorol, a ffydd yn anturiaeth. Ac os nad yw credu’n gyffrous, os nad yw crefydda’n ddiddorol, os nad yw ffydd yn anturiaeth, mae’n rhaid felly nad dilyn Iesu mohonom!
Da a buddiol yw’r gyfres hon. Diolch amdani.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am amrywiol fendithion y dydd.
Edrychwn ymlaen at gael croesawu’r Parchedig Dyfrig Rees (Pen-y-bont ar Ogwr) yn ôl i’n plith y Sul nesaf. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.