'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (23)

'Yr Atgyfodiad', REMBRANDT Harmenszoon van Rijn (1606-69)

'Yr Atgyfodiad', Rembrandt Harmenszoon van Rijn (1606-69), 1639, Munich, Alte Pinakothek

'Yr Atgyfodiad', Rembrandt Harmenszoon van Rijn (1606-69), 1639, Munich, Alte Pinakothek

Crëir gwrthgyferbyniad effeithiol iawn gan Rembrandt: cynnwrf a llonyddwch. I’r chwith gwelir pentwr o filwyr. Teflir hwy pendramwnwgl gan rym yr Atgyfodiad. Yng nghanol y llun: angel. Angel ysblennydd (Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira. Mathew 28:3 BCN) ... a chryf! Yn gwbl ddiymdrech codir maen y bedd ganddo. Mae momentwm y llun yn awgrymu fod yr angel yn mynd i wthio’r maen o’r neilltu i’r ochr chwith. Sylwch ar y milwr â tharian ganddo: mae hwn yn llawn sylweddoli fod yn rhaid iddo symud, a hynny’n gyflym, rhag i faen y bedd ddisgyn arno! Ynghudd braidd yng nghornel isaf y llun mae’r ddwy Mair: ... Mair Magdalen a’r Fair arall ... (Mathew 28:1 BCN). Mae osgo’r ddwy yn ymgorfforiad o syndod, rhyfeddod ac arswyd yr Atgyfodiad. Gwrthgyferbynnir y cynnwrf â llonyddwch - llonyddwch y Crist byw. Dyma athrylith portread cwbl unigryw Rembrandt. Sylwch arno; mae’r Crist byw yn araf a thawel godi o’r bedd. Y neges? Mae codi o farw’n fyw i Iesu llawn mor hawdd a naturiol ag yw codi o’r gwely pen bore!

Yn y ddrama Endgame (1957) darlunia Samuel Beckett (1906-1989) fywyd person fel symudiadau olaf mewn gêm gwyddbwyll. Gellir amrywio’r symudiadau, ond un diweddglo yn unig sy’n bosibl, a hwnnw yw marwolaeth. Dyma hanner y stori, a hanner gwirionedd. Myn ein ffydd fod pwerau’r tywyllwch yn gallu symud fel y mynnont ond ni all eu Brenin bellach osgoi ei ddiwedd. Dyma'r stori'n gyflawn, y gwirionedd yn llawn. Ym muddugoliaeth ddidrafferth y Crist mae gwarant y Cristion mai bywyd yw coron ein hanes a phrofiad.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)