Dydd Gŵyl Beuno Sant (m. 642)
20fed Ebrill
(nodir, hefyd 21/4 fel Dydd Gŵyl Beuno)
Beuno Sant
Gellid dweud am Beuno fel y dywedir am Barnabas: ...yr oedd yn ddyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd (Actau 11:24). Ym mhob cyfnod mae’r Ffydd yn wynebu amgylchiadau newydd, boed yn lledaeniad cenhadol cyfnod Beuno Sant neu’r crebachu crefyddol a welwn yn ein cyfnod ni. Nid rhamantu am orffennol gwell yw diben coffáu a dathlu’r seintiau. Yn hytrach, fe’n hatgoffir mai cymuned hanesyddol yw’r gymuned Gristnogol. Pobl o gig a gwaed yw’r seintiau, pobl sydd wedi troedio'r un tir a daear ag a droediwn ni. Ychydig a wyddom am Beuno, ond y mae ei enw a’r cof amdano yn ei hatgoffa mae pobl a lleoedd yw deunydd crai'r genhadaeth Gristnogol: lleoedd fel Antioch a Chlynnog, pobl fel Barnabas a Beuno.
Dydd Gŵyl Anselm Sant (1033-1109)
21ain o Ebrill
Anselm Sant
Ganed Anselm yn Aosta yng Ngogledd yr Eidal yn 1033. Yn ddyn ifanc teithiodd o amgylch nifer o fynachlogydd a chanolfannau dysg, gan gynnwys Le Bec yn Normandi. Tra yno, trodd at y bywyd mynachaidd. Treuliodd 34 mlynedd yn Le Bec, yn fynach, ac yna’n abad. Ysgrifennodd weithiau diwinyddol, athronyddol a defosiynol. Fe’i penodwyd yn Archesgob Caergaint a bu farw yn 1109.
Rhan o waddol Anselm i’r Eglwys heddiw yw’r her i gynnal y tensiwn creadigol rhwng meddwl a theimlad, pen a chalon. Rhaid wrth y naill a’r llall, neu bydd ein ffydd fel afon heb lif, fel jazz heb y rhythm.
‘Rwyf am ddeall, meddai Anselm, rhywbeth o’r gwirionedd y mae fy nghalon yn ei gredu a’i garu.
(OLlE)