'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 6 a 7.

Esther 6

Rhwng dwy wledd Esther, metha’r brenin â chysgu: Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu ... (6:1). Rhaid lladd amser a dygir llyfr y cofiadur, sef y cronicl (llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd WM) iddo. Daw hanes Bigthana a Theres yn ôl i’r cof (trowch i 2:21-23).  Pa glof ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn? A anrhydeddwyd Mordecai am ei waith? ‘Na’ meddai’r gweision. Ond daw cnoc at y drws a daw Haman i mewn, yn llawn dial ar Mordecai (ad.4). Gofynnir iddo awgrymu’r anrhydedd fwyaf y gellir ei gynnig gan frenin i was da a ffyddlon, a chan gredu mai ef oedd hwnnw dywed Haman: ... dylid dod â gwisg frenhinol iddo. Gallai Haman yn ei falchder a’i sicrwydd ohono’i hun ddychmygu ei hun yn sefyll yn dalsyth yn y wisg frenhinol a wisgir gan y brenin! Mae Haman yn ymhelaethu gan bentyrru anrhydedd ar ben anrhydedd, ond ...

Dyma falchder sy’n rhagflaenu cwymp: nid oes hir oes i’r fath hunanhyder. O bawb, Mordecai a gaiff yr anrhydedd. Mae’r llanw’n troi, yn troi’n gyflym. Brysiodd Haman adre yn drist, â gorchudd am ei ben (gwelir datblygiad o hyn yn y bennod nesaf *). Trist ai peidio, rhaid oedd mynd i’r wledd a baratôdd Esther.

Daw o drai lanw’r eilwaith. (Dic Jones)

Esther 7

Yn y wledd nesaf, ymesyd Esther ar Haman: Y gelyn a’r gwrthwynebwr yw’r Haman drwg hwn (7:6). Geilw am gymorth rhag ei fwriadau creulon.

Agorir llygad y brenin ac yn ei atgasedd tuag at Haman ni all ddal ei hun yn ôl. Apelia Haman am drugaredd Esther sylwch. Hi bellach sydd wir mewn grym ... arhosodd Haman i ymbil â’r Frenhines Esther am ei einioes (7:7). Ond fe’i harweinir ymaith gan y brenin at y crocbren a fwriedid i Mordecai. Rhoddir eiddo Haman i Esther, ac anrhydeddir Mordecai. (* ... gorchuddiwyd wyneb Haman (7:8)) Gelwid Haman yn Agagiad (Esther 3:1; 3:10; 8:3; 8:5 a 9:24), sef disgynnydd Agag, brenin Amalec, a ddarniwyd gan Samuel (1 Samuel 15:33). Trychineb oedd diwedd y ddau Agag a Haman. Dyma ffordd gynnil yr awdur o sicrhau ei ddarllenwyr nad Haman fydd fuddugol yn y pendraw.

Pan ddarllenid Llyfr Esther yn ystod Gŵyl Purim yn y synagog, dywedir pan ynganid yr enw Haman, y mynegai’r Iddewon eu teimlad amdano trwy wneud sŵn â’u traed; yna ymdaflai’r gynulleidfa i gyd i ddathlu buddugoliaeth daioni.

Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni. (Effesiaid 4:31)