Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Peter Dewi Richards (Caerdydd). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Encil: Diwrnod gydag Iesu (Nos Lun, 25/2; 19:30 yn y Festri). Diben y gyfres fechan hon o gyfarfodydd yw treulio’r diwrnod gydag Iesu, ac felly dysgu ganddo a dysgu gan ein gilydd.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 26/2; 19:30 yn y Festri): “Achosion crefyddol Cymreig yn y 19eg ganrif” yng nghwmni Bill Jones.
Dathlu Gŵyl Dewi yng nghartref aelod (Nos Iau, 28/2; 18:30-21:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.