Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: yn ein Hoedfa Foreol (10:30) Aled a Gwion fydd yn arwain Defosiwn yr Ifanc. Gwrthrychau’r sgwrs i’r plant fydd ŷd melys a halen. Bydd y ddau beth, yn ôl Owain Llyr yn gyfryngau i ddangos mor bwysig yw amlygu cariad Duw! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. (Philipiaid 4:5a). Testun homili’r Gweinidog fydd testun y drafodaeth yn Llynyddwch bore Gwener: Dameg y Ddafad Golledig (Luc 15:1-7) a Dameg y Darn Arian Colledig (Luc 15:8-10). Awn i’r afael â’r ddwy ddameg bob yn dipyn, adnod wrth adnod bron iawn.
Prynhawn Sul: Bowlio 10!
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Yr ydym eisoes wedi trin a thrafod sut allwn fyw yn brydferth yn unigol a gyda’n gilydd er mwyn adlewyrchu ac amlygu prydferthwch ein Harglwydd Iesu, ond myn Owain fod rhaid bellach, mynd i’r afael â hyn yn iawn. Fe drown at y Bregeth ar y Mynydd, gan ddarganfod yno cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth: o fewn cyfyng furiau’r capel, neuadd fawr wythonglog.
Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
PIMS nos Lun (18/2; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Crochenwaith!
Nos Fawrth (19/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at benodau 6 a 7 nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun. Dyma fydd y cyfarfod olaf o Bethania am y tro. Byddwn yn ail gydio ar ôl cyfnod y Grawys.
Nos Iau (21/2; 19:00-20:30) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg: "Eglwysi Dementia-Gyfeillgar" yng nghwmni Beti George a Dr Zoe Morris Williams yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth.
Bore Gwener (22/2; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Ddafad Golledig (t.77-82).