Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/2; 9:30 yn y Festri). Echel y cyfan fydd ‘sach o datws’. Os am wybod mwy, dewch â chroeso!
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) byddwn yn troi i Lyfr y Salmau. Nid yw Salm 3 ymhlith yr adnabyddus a’r poblogaidd; ond pan aethpwyd ati, canrifoedd lawer yn ôl, i drefnu a dosbarthu’r Salmau ‘roedd yr ysgolheigion yn teimlo y byddai’r salm hon yn bwrpasol iawn fel Emyn Boreol.
Er pwysiced yw gweddi wrth noswylio onid oes mwy o’i angen arnom i wynebu gofynion y dydd? Yn wir ni ellid gwell paratoad ar gyfer y dydd a’i alwadau na darllen a myfyrio'r salm fer hon. Ni wyddom i sicrwydd beth oedd achlysur cyfansoddi’r salm, ond o wneud defnydd ymarferol ohoni daw bendith gyson inni.
Ein braint pnawn Sul (14:30) fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol, pregeth fyrraf gweinidogaeth Iesu fydd yn destun sylw gennym: Paid ag ofni, yn unig cred (Marc 5: 38-39). Pregeth i bawb yw hon, oherwydd mae pawb yn sefyll wyneb yn wyneb â rhywbeth, neu ryw bethau na allwn mo’u deall, heb sôn am eu rheoli. Paid ag ofni, yn unig cred. Bydd Owain yn ein harwain i ystyried y ddau gwestiwn ‘Credu beth?’ a ‘Beth yw credu?’. Boed bendith.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 12/2; 19:30 yn y Festri): "Epynt" yng nghwmni Glyn Jones a chyfeillion.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (13/2). Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (14/2; 19:30). Y Llywydd newydd, y Parchedig Gwilym Dafydd yn cael ei urddo (cyfarfod yn Eglwys Canol y Ddinas (URC), Windsor Place). Rhennir sylwadau parthed gwaith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Bydd cyfle am drafodaeth a rhannu syniadau.
Babimini bore Gwener (15/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.