Munud i Feddwl ein Gweinidog
Yn 1752 penderfynodd Howel Harris ymneilltuo i dawelwch Trefeca. Cyn diwedd y flwyddyn honno ‘roedd Teulu Trefeca - yn ddiamau un o arbrofion cymdeithasol mwyaf diddorol yn holl hanes crefydd yng Nghymru - wedi ei roi ar y gweill.
Fel hyn y rhoes Williams Pantycelyn y stori ar gân yn ei Marwnad i Howel Harris
Y mae gweddi cyn y wawrddydd
Yn Nhrefeca ganddo fe,
‘Ramser bo trwm gwsg breuddwydlyd
Yn teyrnasu yn llawer lle;
A chyn llanw’r bol o fwydydd
Fe geir yno gyngor prudd,
A chyn swper gweddi a darllen,
Tri addoliad yn y dydd.
Cymr’rwch siampl ben teuluoedd,
Gadw pur addoliad llawn,
Gweddi ac addysg yn y bore
Gweddi ac addysg yn prydhnawn;
Boed eich eglwys yn y gegin
Neu y parlwr, fel y bo lle,
A nes gwneuthur fel gwnaeth yntau
Peidiwch â’i gondemnio fe.
Marw marwolaeth naturiol a wnaeth Teulu Trefeca, ond nid yw hynny yn gyfystyr â dweud bod yr holl ymarferiad wedi bod yn fethiant.
Ystyriwch y geiriau:
Boed eich eglwys yn y gegin
Neu y parlwr, fel y bo lle ...
Pan ddaeth Isaac i le newydd gwnaeth dri pheth trawiadol iawn: ... adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno … (Genesis 26:25).
Rhoi datganiad o’i ffydd oedd Isaac wrth godi allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD. Wrth osod pabell mae Isaac yn pwysleisio gwerth y ‘garreg aelwyd’ a chwlwm cariad. ‘Roedd y gwaith o gloddio pydew neu ffynnon yn amod elfennol cynhaliaeth yn y dwyrain bob amser.
Gofalodd Isaac osod y tri yn ymyl ei gilydd. Dyna ergyd yr yno a ddigwydd deirgwaith. … adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno …
Byr byr oedd y daith o’r allor i’r babell, ac o’r babell i’r pydew! Fe ddiogelwyd ei gartref a’i waith am fod cysgod ei grefydd drostynt ill dau. ‘Dwi’n siŵr braidd, mai rhan o dasg y wir Eglwys heddiw yw ail-weu'r llinynnau sydd yn cydio ‘allor, ‘pabell’ a ‘phydew’ ynghyd: ffydd, yr aelwyd a gwaith beunyddiol yn un cwlwm diwahân. Gan gydnabod y cymysgu delweddau: diffodd a wna tanau ein haelwydydd a'n gwasanaeth oni chyneuwn hwynt â thân yr allor. Felly Boed eich eglwys yn y gegin/ Neu y parlwr, fel y bo lle ...
Mae Marwnad Pantycelyn i Howel Harris hefyd yn cynnwys beirniadaeth ar Deulu Trefeca. Mae’n amlwg nad oedd Williams â llawer o feddwl o’r fenter newydd:
Pa’m y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneud rhyw fynachlog fawr,
Pan dynnodd Harri frenin
Fwy na mil o’r rhain i lawr?
Diau fuasit hwy dy ddyddiau,
A melysach fuasai nghân,
Pe treuliais dy holl amser
Yng nghwmpeini’r defaid mân.
Cwlwm-cwlwm yw’r teulu. Cwlwm i glymu’r clymau oll ynghyd. Uned gynnes, gynhyrchiol ydyw, ond ... gellid troi’r teulu - ein teulu, teulu’r eglwys leol, teulu’r ffydd Gristnogol - yn rhyw fynachlog fawr. Amlygir o ddifri'r perygl yn y ‘weddi’ fach ddigri hon: O! Lord, bless me and my wife, our John and his wife, us four and no more. Rhywbeth i’w rhannu yw tân yr allor. Po fwyaf ohono a rannwn, mwyaf i gyd fydd gennym. Nid uned genhadol oedd Teulu Trefeca - cynhaliwyd tân yr allor, heb ei rhannu. Dyma gŵyn Williams:
Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn?
Ac anghofiaist y ddiadell
Argyhoeddaist ti dy hun?
Y mae plant it ar hyd Cymru
Yn bymtheg mlwydd ar hugain oed,
Ag a ddymun’sai glywed gennyt
Y pregethau cynta’ erioed.
Hen duedd y ddynoliaeth yw bod pobl y weledigaeth fawr yn troi cefn ar y byd er mwyn cadw yn fyw'r neges sydd ganddynt ar ei gyfer. Y canlyniad yw bod y neges honno’n marw - y tân yn diffodd. Er mor bwysig ... eglwys yn y gegin/Neu y parlwr, fel y bo lle ... ni all Cristion ganiatáu greu o’r eglwys yn y gegin, rhyw fynachlog fawr ... rhyw ogof,/Castell a ddyfeisiodd dyn. Nid byw mewn cymuned enciliedig o bobl debyg yw byw’r ffydd, ond troi allan at y bobl y bu Crist farw drostynt. Peidiwn â chamsynied ergyd yr emyn:
Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn
Tu faes i fur y dref.
(OLlE)