• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN' - Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 10, 2017 Owain Evans

Y Parchedig Menna Brown fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (9:30; yn y Festri). Gweddïwn am wenau Duw ar yr Oedfa arbennig hon. Yn dilyn yr Oedfa bydd y Brecwast Bach arferol, a chyfle eto i gyfrannu ar Fanc Bwyd Caerdydd a phrynu nwyddau o’r stondin Masnach Deg.

Dydd Sul bydd ein Gweinidog yn parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Gwrthrych ein sylw y tro hwn fydd Cornelius a Pedr; a liw nos, Paul gerbron Agripa. Mae bywyd yn llawn ffiniau; ffiniau gwlad, iaith, diwylliant, crefydd a hil. Cam-ddefnyddir y ffin yn aml, er mwyn rhwystro mynd a dod drosti. Mae’n bwysig bob amser ein bod yn parchu ffiniau, er lles y rhai sydd yn byw'r naill ochr a’r llall, ond y mae rhywbeth mawr o’i le pan fo’r ffin yn cael ei godi’n uchel er mwyn gwahardd pob mynd a dod. Ffin felly fydd testun sylw ein Gweinidog yn yr Oedfa Foreol, (10:30). Yn Actau 10:34-43 cawn Pedr yn croesi ffin ei ragfarn ei hun. Credai fod y Newyddion Da am Iesu Grist i’r Iddew yn unig, ac nad oedd yn bosibl i genedl-ddyn - Rhufeiniwr o bawb, gelyn yr Iddew - gofleidio’r Efengyl. Gwelodd Pedr, trwy gyfrwng y weledigaeth a gafodd yn Jopa, fod Duw yn mynnu croesi ffiniau gwlad, cenedl, diwylliant a chrefydd. Nid Pedr a Cornelius oedd yr unig rai i groesi’r ffin yn y digwyddiad hwn. Croesodd yr Eglwys Gristnogol ffin gwlad, cenedl, diwylliant a chrefydd hefyd gan agor y ffordd i waith arloesol Paul.

706 fydd testun 'Myfyrdod Pantycelyn' bore Sul.

Mae gweledigaeth yn bwysig i bob unigolyn er gweld y llwybr ymlaen, neu i gyflawni rhyw dasg fydd ganddo. Y fraint a chai’r proffwydi, apostolion a’r cenhadon yw cael gweledigaeth o Dduw, a mwy fyth i ufuddhau iddi. Dyma amddiffyniad Paul gerbron Agripa (Actau 26:12-21), ni allai wadu gweledigaeth ffordd Damascus yr hon a ddylanwadodd mor fawr ar ei fywyd a’i anfon i bregethu Crist i’r Cenhedloedd. Testun ein sylw yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) fydd yr adnod hon: ... ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol ... (Actau 26:19 BCN). Mae’r weledigaeth nefol yn hanfodol i’r gwir Gristion, ac wedi ei chael - ufuddhau! Dyna’r alwad y soniwn ni amdani - Crist yn datguddio’i Hun a’n galw at y gwaith fel y gwaeth â Saul o Tarsus.

Gwrthrych ein 'Myfyrdod Pantycelyn' nos Sul fydd 687.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r Grawys a’r Pasg

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (14/2; 19:30 yn y Festri): ‘Dau o ‘Stiniog’ - Cyflwyniad ar lafar ac ar gân gan ein haelodau dan ofal Rhiannon Evans.

Bore Iau (16/2): Taith Gerdded ar hyd y morglawdd (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).

Babimini bore Gwener (17/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

← WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYNHARRIS, WILLIAMS AC ISAAC →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021