Y mae fy nghariad fel gafrewig,
neu hydd ifanc;
dyna ef yn sefyll y tu allan i’r mur,
yn edrych trwy’r ffenestri,
ac yn syllu rhwng y dellt.
(Caniad Solomon 2:9 BCN)
Daw'r mab fel gafrewig gyda chyflymdra mawr (am iddo fod yn awyddus i fod gyda’i gariad, mae’n amlwg). Traed cyflym sydd gan gariad bob amser.
Pan feddylir am gariad yr Efengyl hefyd, y mae elfen o frys - urgency - ynglŷn ag ef. Pobl ar dân yw’r bobl sy’n cael eu symbylu gan gariad: ni ellir aros nac ymatal, rhaid brysio gyda’r neges am y Cariad hwn. Tybed nad yw’r nodyn yma o frys ar goll yn ein cyfathrebu o’r Efengyl heddiw?
Benthycwn brofiad Elfed (1860-1953) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Pan weli fy amynedd,
O! Arglwydd, yn byrhau;
pan weli fod fy mhryder
dros ddynion yn lleihau;
rhag imi, er maint fy mreintiau,
dristáu dy Ysbryd di,
i dawel lwybrau gweddi
yn fynych arwain fi. Amen.
(OLlE)