Thema’r Oedfa Deulu heddiw oedd y rhif ‘6’. Wedi’r Gweinidog dderbyn adnodau’r oedolion, plant a phlantos, arweiniwyd y defosiwn gan Nia. Dyma, i’ch sylw, y myfyrdod yn ei chrynswth. Mawr ein diolch i Nia am ein hatgoffa mawr fawr yw’r angen i gofio cofio.
‘Ar ddiwedd y mis rydwyf i wedi fy newis i gymryd rhan yn y Prosiect Gwersi o Auschwitz dan arweiniad y Holocaust Educational Trust. Byddaf yn mynd i ymweld â gwlad Pwyl ag Auschwitz ac yn cymryd rhan mewn nifer o seminarau i drafod beth yr ydym wedi ei weld, a beth allwn ddysgu o’r hanes yma sydd yn berthnasol i ni heddiw.
Ar y seithfed ar hugain o fis Ionawr roedd yn ddiwrnod coffa’r Holocost. Nid oes amheuaeth mai'r Holocaust oedd un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll yr ugeinfed ganrif. Digwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ‘roedd Hitler yn arwain yr Almaen. Llofruddiwyd 6 miliwn o Iddewon, gan gynnwys 1 miliwn o blant. Llofruddiwyd hefyd nifer o bobl eraill nad oedd Hitler yn eu parchu, er enghraifft Pwyliaid, Catholigion, Sipsiwn a phobl anabl.
Roedd rai Almaenwyr ar y pryd yn hoffi’r syniad eu bod yn well na phawb arall. Roedd hi’n gyfleus i roi bai ar yr Iddewon am eu problemau. Nid oedd yr Iddewon yn gallu ennill arian ac roedd eu rhyddid hefyd yn cael ei dynnu oddi wrthynt. Ceisiodd lawer o Iddewon ddianc i wledydd tramor. Roedd rhaid i’r gweddill aros yn aml am eu bod yn rhy hen, neu yn rhy dlawd neu’n wan a sâl. Gwnaethpwyd eu bywyd yn ofnadwy. A yw hwn yn swnio’n gyfarwydd?
Erbyn 1939, gorfodwyd i’r Iddewon a oedd yn byw mewn dinasoedd symud o’u cartrefi i geto. Gadewch i ni glywed am brofiadau Shama yn y geto:
Mae bywyd yma yn y geto yn erchyll. Does dim lle, rydw i’n teimlo fel fy mod wedi carcharu yn fy nghartref. Does dim modd i ni fynd heibio’r ffin neu cawn ein cosbi. Mae’r olygfa o fy ffenest mor hyll, dim ond ffens weiren bigog yn cwmpasu ein hardal byw. Mae prinder bwyd a diod yma, mae pawb yn dechrau troi yn anifeiliaid. Dwi wedi clywed for teulu’r Bodner yn symud i fyw gyda ni. Does braidd dim lle i fy nheulu i yn y tŷ pitw yma heb sôn am deulu ychwanegol.
Wrth weld y lluniau ar y teledu neithiwr o’r ffoaduriaid yn Calais yn byw mewn pebyll bychain, y plant wrth ffin Syria a Thwrci yn gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd gorthrymder a rhyfel, ni allaf ond meddwl am y cymariaethau, a gofyn: 'A’i dyma etos ein hoes ni?'
Clywn lawer hefyd am ddigwyddiadau cyfoes erchyll arall sy’n digwydd am fod pobl yn meddwl ei bod yn well nag eraill neu am nad yw pobl yn deall na pharchu credoau eraill. Dyma yw prif nod y prosiect y byddaf yn rhan ohoni: dysgu am sut gallwn ddysgu o erchyllterau hanes a gweld beth allwn wneud er mwyn sicrhau nad yw hanes yn ailadrodd ei hun. Rwyf yn sicr yn meddwl am y pethau bychain y gallaf, a phawb ohonom wneud er mwyn helpu’r rhai sy’n ffoi.
O! Dduw, helpa ni i fod yn oddefgar tuag at bawb sydd yn wahanol i ni. Helpa ni i barchu pobl sy’n wahanol boed iddo fod o ran eu crefydd neu eu gallu corfforol. Helpa ni i gofio am y plant a’r oedolion a gymerwyd o’u cartrefi a’u hanfon i’r gwersylloedd crynhoi. Gwna ni yn ddigon cryf i ofalu nad yw hanes fel hwn yn ail adrodd ei hun. Amen
Echel y sgwrs deuluol gyntaf oedd ... Jelly Babies! ‘Roedd y plant wrth eu boddau, a chan sgipio daethant i’r Set Fawr at ein Gweinidog. Bu’r bocs Jelly Babies yn hir, hir heb ei hagor. Esboniodd y Gweinidog mae 6 Jelly Baby sydd, pob un a’i liw a’i flas gwahanol: mefus, leim, cyrens duon, lemon, mafon, ac oren. Cafodd Jelly Babies eu gwerthu am y tro cyntaf yn 1918 i ddathlu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gelwid hwy'r adeg honno yn Peace Babies. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n rhaid stopio eu cynhyrchu gan nad oedd digon o’r cynhwysion ar gael. Yn 1953, crëwyd hwy o’r newydd, a’u gwerthu fel Jelly Babies. Ym 1989 cafodd bob un o’r chwech, enw! Mae Bonny yn binc; Boofuls yn wyrdd; Bumper yn oren; Bubbles yn felyn a Bigheart yn llwyd-ddu. ‘Roedd sawl llaw i fyny bellach ... ond, aeth y Gweinidog yn ei flaen i awgrymu fod yr eglwys leol yn debyg i becyn o Jelly Babies, mae pawb yn wahanol. Ym Minny Street, mae sawl Bonny a Boofuls; ambell Bumper a Bubbles a llawer iawn o Bighearts. ‘Roedd rhywbeth yn poeni’r plant! Mae un ar goll! Bonny; Boofuls; Bumper; Bubbles; Bigheart - 5. Mae’r Jelly Baby coch ar goll! Beth yw enw’r Jelly Baby coch? Brilliant. Agorodd y Gweinidog y bocs Jelly Babies, ac er mawr syndod i’r rhai bach (mae’r bobl ifanc a’r oedolion wedi hen arfer â phethau fel hyn!): ‘roedd bob un yn goch. Brilliant bob un. Awgrymodd Owain, mae fel hyn mae Duw yn gweld ni. Mae Duw yn gweld beth sy’n brilliant amdanom. Ein gwaith a’n cenhadaeth yw bod yn bobl brilliant - brilliant ein ffydd; brilliant ein gobaith a brilliant ein cariad!
 ninnau, bellach wrth Fwrdd y Cymundeb, cafodd bawb pishyn chwech! ‘Roedd Owain am ddefnyddio’r darn bychan hwn o hen arian i sôn ychydig am gariad mawr, oesol gyfoes ein Duw. Mae’r pishyn chwech yn grwn - mae cariad Duw yn cynnwys y byd yn grwn, cariad i bawb o bobl y byd ydyw. Mae llun coron ar y darn arian hwn. Duw yw ein Brenin; Brenin Cariad ydyw. Ein cenhadaeth yw gweithio a chyd-weithio i ledaenu cariad, gan ledu terfynau teyrnas Cariad Duw. Coron, ie; a dyddiad: 1943. Mae’n 2016 eleni. Beth pe bawn yn tynnu 1943 o 2016? Faint sydd yn weddill? 73. Pwy oedd yn weinidog yn eglwys Minny Street 73 mlynedd yn ôl yn 1943? Y Parchedig R. J. Jones. Yn 1943 ‘roedd R. J. Jones yn sôn am gariad Duw wrth bobl Dduw. Yn 2089, 73 mlynedd o nawr bydd rhywun yma yn y Waun Ddyfal yn sôn am gariad Duw wrth bobl Dduw. Cariad hyd byth yw cariad Duw. Ar y darn bychan hwn o arian mae’r ddau air: Fid Def - Fidet Defensor. Y syniad yw bod y brenin yn Defender of the Faith. Dyma sydd wir; nid nyni sydd yn amddiffyn y ffydd, y ffydd sydd yn ein hamddiffyn ni. Mae ein ffydd yng nghariad Duw yn ein cadw’n ddiogel pan mae bywyd yn galed a byw yn boen. Neges olaf y gweinidog oedd mai cwbl ofer oedd siarad am ffydd, os nad yn gwneud y ffydd honno’n rhan o bopeth ydym fel unigolyn. Felly, a dyma oedd wirioneddol dda am y pishyn chwech hwn! Siocled ydoedd. Felly, am unwaith, cafodd bawb rhwydd hynt i fwyta yn y capel! Y cyfan yn arwydd o bwysigrwydd ffydd o’n mewn, yn gysur a chadernid.
Wedi ymdawelu cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd a gwerth y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, ac o’r herwydd i addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Diolch am hwyl a her yr Oedfa Deulu. Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar bore Sul nesaf (14/2) o dan arweiniad Llŷr Gwyn Lewis.
 hithau heddiw’n Sul arbennig i’r elusen Church Action on Poverty dymunwn fendith Duw ar ymdrechion yr elusen i ddileu tlodi yng ngwledydd Prydain a thros ein cyfraniad ninnau fel eglwys tuag at y nod hwnnw. Nid angof gennym heddiw bawb sy’n dioddef oherwydd terfysg yn ein byd. Gan gofio’r cyrchoedd awyr dwys a’r brwydro ffyrnig ger dinas Aleppo y penwythnos hwn, gweddïwn yn arbennig am heddwch a chymod yn Syria. Diolch am bob un sy’n gweithio’n ddiflino i ddatrys anghydfod ac adfer heddwch. Bendithia weithwyr yr elusennau niferus sy’n taflu mantell gysgodol dros ffoaduriaid blinedig yn enw Duw.
Liw nos, parhau â’r gyfres pregethau: Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd. Mae bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd? Bwriad y Gweinidog yw mynd â ni drwyddynt, fesul dau neu dri. ‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Ym mis Tachwedd buom yn trafod Esau, Joseff, Amram a Jochebed, mam a thad Moses. Moses a Bitheia. Bithea? Merch Pharo (1 Cronicl 4:17). Heno, Rahab a Gideon oedd testun ein sylw.
Y Canannead cyntaf i Israel gyfarfod wedi croesi’r Iorddonen oedd Rahab y butain. Rhoddodd loches i’r ysbiwyr ar yr amod ei bod hi a’i theulu yn cael eu harbed pan syrthiai Jericho i afael yr Isrealiaid. Yn ôl y traddodiad Iddewig, fe ymbriododd â Josua, ac y mae’r proffwyd Jeremeia yn un o’i disgynyddion. Caiff yr yn faint os nad mwy o barch mewn Cristnogaeth. Y mae Mathew (1:5) yn ei gosod yn daclus yn achau Iesu o Nasareth. Hi oedd mam Boas, tad-cu Jesse, tad Dafydd. Mae awdur yr Hebreaid yn cydio ynddi gan iddi fentro’i ffydd mewn ffydd. Wrth ystyried y fuddugoliaeth a gafodd yr Isrealiaid dros yr Eifftiaid a’r Amoriaid, rhesymodd hon a phenderfynu bod yr ARGLWYDD yn gryfach na’i duwiau hi. A’r sail yr argyhoeddiad y mae’r ARGLWYDD eich Duw chwi yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod (Josua 2:11) mentrodd groesawu’r ysbiwyr yn heddychlon (Hebreaid 11:31) gan ymddiried yn ei Duw hwythau, ac ymroi i’w wasanaethu. Yn Iago 2:25 defnyddir Rahab fel enghraifft o’r hyn sydd yn deillio o wir ffydd: ... onid tryw weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain, pan dderbyniodd hi’r negeswyr a’u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall? Fel y mae’r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw. Gofal am eraill oedd ffrwyth ffydd Rahab. Heb y ffydd honno a’i ffrwyth, ni fuasem erioed wedi clywed amdani, ac ni fuasai ei henw wedi cael ei gyplysu â’r new sydd goruwch pob enw.
Dywed awdur y Llythyr at yr Hebreaid nad oedd ganddo’r amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a’r proffwydi. Mae gennym ni amser yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a da fydd i ni ymdroi ychydig yn eu cwmni, a chyfarwyddo â’u hanes. Un peth yw gwybod enwau’r arwyr ffydd, rhagorach yw gwybod eu hanes a derbyn o’i her. Nid oes hanes rhy dda i rai o’r rhai a enwir uchod, ond edrychwn arnynt ar eu gorau. Dyna’r ffordd iawn i feddwl am bawb - ar eu gorau. Gyda’u holl bechodau a ffaeleddau, ‘roedd iddynt eu lle yn nhwf araf y datguddiad o gariad mawr ein Duw. Gideon oedd yr ail gymeriad o dan sylw gennym heno. Un gwrol ydoedd. Wrth arwain ei bobl cafodd Gideon ei hun gyda’r lleiafrif fwy nag unwaith. Gwelodd filoedd yn troi eu cefnau arno, a dim ond 10,000 ar ôl. Gwelodd y deng mil yn mynd yn 300, ond dal i gredu gwnaeth Gideon. Yn y frwydr hon, ‘roedd Duw yn mynd i ymladd drostynt. Nid oedd maint a phrofiad y gelyn yn golygu dim i Dduw! Po leiaf fyddai maint byddin Gideon, amlycaf oll fyddai nerth Duw yn y fuddugoliaeth. Wrth leihau byddin Gideon i’r nesaf peth i ddim, gwaredwyd Gideon a’i bobl rhag y demtasiwn o hawlio’r gogoniant am yn fuddugoliaeth iddynt eu hunain. Sylweddolasant fod cryfder mewn gwendid, a gwendid mewn nerth.
Diolch am fendithion y dydd - am gynhaliaeth yr oedfaon, a chymdeithas gynnes ein cyd-aelodau.
Daeth eto, gyfnod y Grawys. Nodir y Grawys eleni trwy gyfrwng cynllun ‘Solvitur ambulando’ (manylion isod) a chyfres arbennig o bregethau: ‘Ffydd a Thrais'. Ein man cychwyn bydd Micha 6:8. Wyneb yn wyneb â thrais, terfysg, llad, rhaid peidio ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo. Yn yr Oedfa Hwyrol: Ioan 16:33. Trais, terfysg, lladd – anobaith, ofn? ‘Mae’r afael sicraf fry’ Pedr Fardd (1775-1845; CFf.:677).
SOLVITUR AMBULANDO - GRAWYS 2016
‘Solvitur ambulando’, meddai Awstin Sant (c.354-430): ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Un o fendithion pennaf bywyd yw cerdded, ychwanegir bendith at fendith wrth gerdded mewn cwmni. ‘Roedd yr Americanwr Henry David Thoreau (1817-1862) yn gerddwr o fri. Awgrymai Thoreau fod y ferf ‘to saunter’ yn tarddu o Sainte Terre - y Wlad Sanctaidd. Yn y llyfr Wanderlust (2000; Penguin) - hanes cerdded - mae Rebecca Solnit (gan.1961) yn sôn am gerdded yn nhermau tri chymeriad yn dod ynghyd am sgwrs - y meddwl, y corff a’r byd.
‘Solvitur ambulando’, meddai Awstin Sant - ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Boed i’n cerdded ninnau dros gyfnod y Grawys eleni fod yn gymorth ac yn gyfrwng i ddod â meddwl, corff, byd ac enaid ynghyd.
TEITHIAU UNIGOL:
Nasareth i Fethlehem. 65 milltir dros 40 diwrnod. 1.6 milltir/4000 o gamau'r dydd.
Via Dolorosa. 88 milltir dros 40 diwrnod. 2.2 milltir bob dydd/5500 o gamau’r dydd.
Jerwsalem i Damascus. 150 milltir dros 40 diwrnod. 3.75 milltir/7500 o gamau’r dydd.
Damascus i Cesarea. 200 milltir dros 40 diwrnod. 5 milltir/5000 o gamau’r dydd.
TEITHIAU MWY YMESTYNNOL:
Damascus i Cesarea. 200 milltir dros 40 diwrnod. 5 milltir/5000 o gamau’r dydd.
Exodus. 375 milltir dros 40 diwrnod. 9.4 milltir/18,750 o gamau’r dydd.
Tarsus i Jerwsalem. 390 milltir dros 40 diwrnod. 9.75 milltir/19,500 o gamau’r dydd.
TEITHIAU GRŴP:
Taith Abraham: 900 milltir. 22.5 milltir fel grŵp bob dydd.
Taith Genhadol Gyntaf Paul: 1300 milltir. 32.5 milltir fel grŵp bob dydd.
Gadewch i Owain wybod pa daith i chi am fentro, a gyda threigl y Grawys cadwch a rhannwch gofnod o’ch cyraeddiadau.