Ffydd a’i Phobl (5) (Hebreaid 11) - Rahab a Gideon
Ym Mhennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid sonnir am 16 o Bobl Ffydd, pob un yn cynnig rhan o’r ateb i’r cwestiwn: Beth yw ffydd?
Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha ... oherwydd iddi groesawu’r ysbiwyr yn heddychlon (Hebreaid 11: 31). Y Canannead cyntaf i’r Israeliaid gyfarfod wedi croesi’r Iorddonen. Rhoddodd loches i’r ysbiwyr ac yn ôl y traddodiad Iddewig, priododd â Josua, ac y mae Jeremeia yn un o’i disgynyddion. Gosod Mathew hi yn achau Iesu (Mathew 1:5): mam Boas, tad-cu Jesse a thad Dafydd. Cydia awdur yr Hebreaid ynddi gan iddi fentro’i ffydd mewn ffydd. Wrth ystyried buddugoliaeth yr Israeliaid dros yr Eifftiaid, penderfynodd bod yr Arglwydd yn gryfach na’i duwiau hi a mentrodd groesawu’r ysbiwyr yn heddychlon (Hebreaid 11:31). Mae Rahab yn mentro; o’i chwmpas mae pwysigrwydd menter a mentro. Darllenwn yn Llyfr Numeri sut, yn unol â gorchymyn Duw (Numeri 13:1), y danfon Moses ysbiwyr i gael cipolwg ar Cannan. Wedi dychwelyd, adroddiad negyddol sydd gan deg o'r deuddeg: Gwelsom yno gewri, nid oeddem yn gweld ein hunan yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau (Numeri 13:33). Pobl Dduw yn arswydo rhag y Canaaneaid. Yn Llyfr Josua, darllenwn sut y bu i Rahab roi lloches i ysbiwyr Josua: Gwn, fod yr Arglwydd wedi rhoi’r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom ... nid oes hyder yn neb i’ch wynebu, oherwydd y mae’r Arglwydd eich Duw chwi yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod (Josua 2: 9-11). Y tro hwn, y Canaaneaid yn arswydo rhag yr Israeliaid. Wedi clywed adroddiad dihyder ysbiwyr Moses, amlygodd Duw ei ewyllys gan orfodi ei bobl i aros yn yr anialwch am 40 mlynedd; hyd nes geni cenhedlaeth newydd yn ymddiried yn Nuw ac, o dan arweiniad arweinydd newydd, yn croesi'r ffin rhwng ofn a chyfle, a pherchenogi Gwlad yr Addewid. O ddarllen Llyfr Josua, er hynny, pobl Cannan oedd, yn wirioneddol, yn arswydo rhag yr Isrealiaid. ‘Roedd y 12 ysbiwyr a anfonodd Moses yn flaenllaw ymhlith pobl Israel (Numeri 13: 3). Arweinwyr oeddent; ac yn ôl y seicolegwyr mae pobl sydd o dan bwysau disgwyliadau eraill ohonynt yn dueddol i ddatblygu meddylfryd gosodedig. Wedi cyrraedd safle o ddylanwad a pharch, arswydant rhag eu colli; ceir diogelwch mewn mentro dim, a hynny rhag colli dim. Dyna oedd neges deg o’r 12. Neges wahanol oedd gan Caleb a Josua; perthynai i'r rhain feddylfryd tyfiant: Os bydd yr Arglwydd yn fodlon arnom, fe’n harwain i mewn i’r wlad hon sy’n llifeirio o laeth a mêl ... a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad os byddant yn ymladd yn ein herbyn (Numeri 14:8-9). Y neges? Beth yw ffydd? Ffydd yw mentro. Pwysig bod yn eglwys fedrus; pwysicach bod yn eglwys fentrus ... ac yn barod i fethu wrth fentro, gan wybod mai’r mentro sydd bwysig nid y methu. Mae arswydo rhag methiant yn arwain i fethiant, ond mae parodrwydd i fethu yn galluogi llwyddiant.
A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a’r proffwydi (Hebreaid 11:32) Arweinydd milwrol oedd Gideon. Geilw Duw arno i godi byddin i oresgyn y Midianiaid. Casglodd ynghyd 32,000 o ddynion; dywed Duw: Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw (Barnwyr 7:2). Lleihawyd y nifer; arweiniwyd 10,000 ohonynt lawr i ymyl y dŵr i yfed. Aeth 300 ohonynt i lepian y dŵr, aeth y gweddill ar eu pedwar yn y dŵr a chodi dŵr â’u llaw at eu genau. Anfonwyd 9,700 adref! Trwy’r tri chant sy’n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law (Barnwyr 7:7) meddai Duw; ac felly y bu. Y neges? Beth yw ffydd? Ymroi ac ymddiried. I ennill y frwydr, nid niferoedd oedd yn bwysig, ond ymroddiad ac ymddiriedaeth. O fesur rhif aelodaeth ac yng nghyd-destun eglwysi anghydffurfiol Cymru, gellid dweud bod Eglwys Minny Street yn eglwys fawr. Gwir fesur eglwys yw ymroddiad ac ymddiriedaeth ei phobl. Ymroddiad i ddarllen a thrafod y Beibl; ymroddiad mewn cefnogaeth, ffyddlondeb, a chysondeb; ymddiriedaeth yn Nuw trwy weddi, gwasanaeth dygn a chenhadaeth feiddgar. Trwom ni, ein hymroddiad i Dduw ac i’n gilydd; ein hymddiriedaeth yn Nuw ac yn ein gilydd y daw Eglwys Minny Street yn eglwys fawr yng ngwir ystyr y gair. Gwneled Duw ni’n fendith i eraill er mwyn Iesu Grist.