Gŵr a lysenwid yn asyn cryf - ISSACHAR Genesis 49: 14
Gŵr blewog - ESAU Genesis 27: 11
Gof arian - DEMETRIUS Actau 19:24
Gŵr a ddaeth yn ôl i Fethania - LASARUS Ioan 11: 17
Mab i Lamech - NOA Genesis 5:29
Brenin Amalec - AGAG 1 Samuel 15: 33
Demetrius; Agag; Noa; Issachar; Esau; Lasarus - Daniel.
Yr oedd ffenestri ei lofft ar agor i gyfeiriad Jerwsalem (Daniel 6:10).
Mae Daniel yn alltud ym Mabilon, yn byw a bod wyneb yn wyneb a chrefydd a gwareiddiad croes i’w fagwraeth, ond yn llwyddo’n rhyfeddol serch hynny. Mae llys a gwlad yn dibynnu arno, a phawb yn parchu ei farn. Ond, yma mae Daniel mewn trafferth. Daw’r adnod o bennod y Ffau’r Llewod. Fe wyddom y stori’n iawn wrth gwrs. Mae’n argyfwng ar Daniel; aeth i’w dŷ, ac Yr oedd ffenestri ei lofft ar agor i gyfeiriad Jerwsalem, hynny yw, ‘roedd ffenestri Daniel ar agor i gyfeiriad ei Dduw. Dyma beth sydd angen arnom - ffenestri’n bywyd ar agor i gyfeiriad Duw.
Yn dy oleuni Di y gwelwn ni oleuni, Ein Tad. Cadw ni yn y golau. Amen